Dadansoddiad mathemategol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ms:Analisis matematik
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 57: Llinell 57:
[[lv:Matemātiskā analīze]]
[[lv:Matemātiskā analīze]]
[[mk:Математичка анализа]]
[[mk:Математичка анализа]]
[[ml:അനാലിസിസ് (ഗണിതം)]]
[[ms:Analisis matematik]]
[[ms:Analisis matematik]]
[[mt:Analisi matematika]]
[[mt:Analisi matematika]]

Fersiwn yn ôl 14:22, 5 Mehefin 2011

Cangen o fathemateg.

Dadansoddi (hefyd "dadansoddi," "analysis") yw'r enw cyffredinol a roddir i unrhyw astudiaeth fathemategol sy'n dibynnu ar y cysyniadau o derfannau a chydgyfeirio, ac sy'n crybwyll pynciau perthnasol megis di-doredd, integru, differu, a ffwythiannau trosgynnol. Yn aml, fe astudir y pynciau hyn yng nghyd-destyn rhifau real, rhifau cymhlyg, a'u ffwythiannau. Fodd bynnag, gellir hefyd eu diffinio yng nghyd-destyn unrhyw set o wrthrychau mathemategol sydd â diffiniad o agosatrwydd (gofod topologaidd) neu o bellter (gofod metrig). Man cychwyn astudiaeth dadansoddi yw datblygiad trwyadl o galcwlws.

Isbynciau

Fe rennir dadansoddi erbyn hyn i'r isbynciau canlynol:

Fel arfer ystyrir Dadansoddi clasurol yn unrhyw waith nad yw'n defnyddio dulliau dadansoddi ffwythiannol, ac fe'i gelwir weithiau yn ddadansoddi caled; mae'n cyfeirio hefyd, nid yn annisgwyl, o'r pynciau mwy traddodiadol. Fe rhannir astudiaeth hafaliadau differol â meusydd eraill megis systemau dynamig, ond mae'r gogyffwrdd â dadansoddi 'unionsyth' yn un fawr.