Comiwnyddiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn newid: ps:کمونيزم
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: tg:Коммунизм
Llinell 121: Llinell 121:
[[ta:பொதுவுடமை]]
[[ta:பொதுவுடமை]]
[[te:కమ్యూనిజం]]
[[te:కమ్యూనిజం]]
[[tg:Коммунизм]]
[[th:คอมมิวนิสต์]]
[[th:คอมมิวนิสต์]]
[[tl:Komunismo]]
[[tl:Komunismo]]

Fersiwn yn ôl 21:15, 2 Mehefin 2011

Ideolegau Gwleidyddol
Anarchiaeth
Ceidwadaeth
Cenedlaetholdeb
Comiwnyddiaeth
Cymunedoliaeth
Democratiaeth Gristnogol
Democratiaeth gymdeithasol
Ffasgiaeth
Ffeministiaeth
Gwleidyddiaeth werdd
Islamiaeth
Natsïaeth
Rhyddewyllysiaeth
Rhyddfrydiaeth
Sosialaeth

Comiwnyddiaeth yw dull llywodraethu, yr athroniaeth sy'n ategu y dull hwnnw neu fudiad sy'n ei ategu.

Fel dull llywodraethu, byddai byd comiwnyddol yn un heb wladwriaeth, heb berchnogaeth breifat a heb ddosbarthau cymdeithasol. Mewn comiwnyddiaeth ddelfrydol, byddai perchnogaeth yn gymunedol ac eiddo'n gyffredin i bawb.

Marcsiaeth

Y math o gomiwnyddiaeth sy'n fwyaf adnabyddus yw Marcsiaeth a'r mudiadau a chysyniadau sy'n deillio ohoni - yn arbenning Leniniaeth (neu Marcsiaeth-Leniniaeth fel y'i gelwir yn amlaf) a elwir felly ar ôl y chwyldroadwr Bolsiefic o Rwsiad, Vladimir Lenin). Fel rheol gelwir plaid wleidyddol sy'n arddel comiwnyddiaeth yn Blaid Gomiwnyddol. Mae'r mwyafrif o'r pleidiau hynny yn Farcsaidd-Leninaidd, ond ceir yn ogystal gomiwnyddion sy'n gwrthod Lenin i ddilyn athroniaeth chwyldroadwyr eraill, er enghraifft y Rwsiad Leon Trotsky (Trotscïaid), a chomiwnyddion sy'n cydnabod Lenin ond sy'n arddel athroniaeth wedi'i haddasu i gwrdd ag amgylchiadau neilltuol, fel y Maoïaidd (ar ôl y Tsieinëad Mao Zedong) a'r Staliniaid (ar ôl y Georgiad Joseph Stalin).

Mae Marcswyr yn credu bod rhaid mynd drwy gyfnod o lywodraeth sosialaidd cyn y bydd comiwnyddiaeth ei hun yn bosib. Heddiw, dim ond Gweriniaeth Pobl Tsieina, Ciwba, Fiet Nam, Moldofa a Gogledd Corea sydd dan reolaeth gomiwnyddol. Cyn 1991, roedd 'na lawer mwy o wledydd sosialaidd, fel yr Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw, er enghraifft.

Anarchiaeth Gymdeithasol

Er y bu anarchwyr yn cytun a Marcswyr yn ôl yr amcan o gyrraedd cymdeithas heb ddosbarthiadau cymdeithasol, wladwriaeth na eiddo preifat, maent yn anghytuno ar y dulliau o'i gyrraedd. Credant ei fod yn amhosib ymgorffori'r gweithwyr yng ngwladwriaeth, sef cyfnod Sosialaeth yn y terminoleg Marcsiaeth. Maent yn gweld y wladwriaeth fel amddiffynnwr eiddo preifat ac yn wrthrych hierarchol. I anarchydd, rhaid chwalu y wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth lle i'r Marcsydd rhaid cymryd rheolaeth o'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth. Bu anarchwyr hefyd o ganlyniad yn gwrthwynebol i bleidiau gwleidyddol, yn enwedig pleidiau canolig, hierarchol. Credant yn gadarn fod rhaid i'r gweithwyr, a'r gweithwyr 'oll, gweithredu'r chwyldro dros gomiwnyddiaeth, ac nid plaid yn honni ei fod yn eu cynrychioli.

Dolenni allanol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Link FA