Rhestrau copaon gwledydd Prydain ac Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
parhau |
|||
Llinell 29: | Llinell 29: | ||
==Murdos== |
==Murdos== |
||
[[Delwedd:Drifts, Beinn Eunaich - geograph.org.uk - 125795.jpg|bawd|Murdo: [[Beinn Eunaich]], [[Ucheldir yr Alban]].]] |
|||
Mae'r rhain yn debyg iawn i'r Munros ac yn cynnwys holl gopaon yr Alban dros 3,000 tr, sydd ag uchder gymharol o dros 30 m (98 tr). Ceir 444 ohonyn nhw ar hyn o bryd (2011). Caiff y rhestr hon ei chynnal gan Alan Dawson. |
Mae'r rhain yn debyg iawn i'r Munros ac yn cynnwys holl gopaon yr Alban dros 3,000 tr, sydd ag uchder gymharol o dros 30 m (98 tr). Ceir 444 ohonyn nhw ar hyn o bryd (2011). Caiff y rhestr hon ei chynnal gan Alan Dawson. |
||
Fersiwn yn ôl 06:38, 2 Mehefin 2011
Dyma restrau cydnabyddiedig o gopaon gwledydd Prydain yngŷd â'u henwau a'u diffiniadau. Ceir nifer fawr o restrau neu ddosbarthiadau tebyg sy'n categoreiddio mynyddoedd mewn gwahanol ffyrdd megis uchder, amlygrwydd y copa neu gategoriau eraill. Mae llawer o gerddwyr yn ceisio cerdded i ben rhestr gyfan o gopaon ac wedi creu cymdeithas o gerddwyr cyffelyb.
Munros
- Prif: Munro
Y rhestr cyntaf i gael ei chreu yng ngwledydd prydain oedd y Munros a grewyd yn 1891 gan Syr Hugh Munro, 4ydd Barwn (1856–1919). Galwodd bob copa dros 3000 troedfedd yn yr Alban yn "Funro" a chedwir rhestr gyfoes gan Glwb Mynydda'r Alban. Ceir 283 copa a ddiffinir fel "Munro" a 227 copa atodol. Yr enwocaf o'r math hwn ydy Ben Nevis sy'n 1,344 metr (4,409 tr).
HuMPs
- Prif: HuMP
Bryn neu fynydd ydy HuMP - wedi'i leoli yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon - a gydag uchder cymharol o o leiaf 100 metr, waeth pa mor uchel ydy'r copa, yn wahanol i Farilyn sydd ag uchder cymharol (drop yn Saesneg) o 150m neu fwy. Ceir tua 1,431 ohonyn nhw.
Marilyns
- Prif: Marilyn (mynydd)
Bryn neu fynydd ydy Marilyn - wedi'i leoli yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon - a gydag uchder cymharol o o leiaf 150 metr, waeth pa mor uchel ydy'r copa. Bathwyd y term fel gair mwys i gyferbynnu â'r term a ddefnyddir yn yr Alban: Munro. Ceir 2,009 Marilyn: 1,216 yn yr Alban, 455 yn Iwerddon, 176 yn Lloegr, 5 yn Ynys Manaw a 157 yng Nghymru. Casglwyd y rhestr gan Alan Dawson yn ei lyfr 'The Relative Hills of Britain' ond mae'r rhestr hon yn cael ei diweddaru'n aml.
Corbetts
- Prif: Corbett
Copaon rhwng 2,500 a 3,000 (762.0 a 914.4 m) o droedfeddi ydy'r Corbetts, gydag uchder cymharol o dros 500 troedfedd (152.4 m). Lluniwyd y rhestr yn wreiddiol yn y 1920au gan John Rooke Corbett. Ceir 449 ohonyn nhw.
Donalds
Percy Donald a luniodd y rhestr o gopaon dros 2,000 o droedfeddi (609.6 metr). Dim ond yn iseldiroedd yr Alban mae'r copaon hyn. Mae'r fformiwla sy'n eu diffinio'n eitha cymhleth; mae'n rhaid i'r bryncyn o'r math hwn gael amlgygrwydd o 30 m (98 tr). Ceir 140 Donalds: 89 ohonyn nhw'n fryniau a 51 yn gopaon.
Grahams
Bryniau yn yr Alban o rhwng 2,000 a 2,499 tr (609.6 a 761.7 m), gydag amlygrwydd o 150 m (490 tr). Cyhoeddwyd y rhestr hon yn gyntaf gan Alan Dawson mewn llyfr o'r enw The Relative Hills of Britain ond galwyd y copaon ar ôl Fiona Torbet (née Graham) a luniodd restr debyg tua'r un pryd. Dawson sy'n cynnal y rhestr hyd heddiw (2011), rhestr o 224 bryn wedi'u rhannu fel a ganlyn: Yr Ucheldir i'r de o Great Glen 92; yr Ucheldir i'r gogledd o'r Great Glen 84; Canol a de'r Alban 23; Ynys Skye 10; Mull 7; Harris 3; Jura 2; Arran 1; Rum 1 a de Uist 1.
Yn 2004 cyhoeddodd Dawson restr o Gopaon Grahams (Saesneg: Graham Tops) yn yr Alban i lawr i 610 m o ran uchder a 30 m o ran uchder cymharol. Ceir 777 ohonyn nhw.
Murdos
Mae'r rhain yn debyg iawn i'r Munros ac yn cynnwys holl gopaon yr Alban dros 3,000 tr, sydd ag uchder gymharol o dros 30 m (98 tr). Ceir 444 ohonyn nhw ar hyn o bryd (2011). Caiff y rhestr hon ei chynnal gan Alan Dawson.
Uchder troedfeddi |
Uchder metrau |
Amlygrwydd metrau |
yr Alban | Cymru a Lloegr |
---|---|---|---|---|
pob un | 150+ | Marilyn | ||
3000+ | 914.4+ | 100+ | HuMP | |
heb ei ddiffinio | Munro, Munro Top | Furth | ||
30+ | Murdo | |||
2500+ ond is na 3000 |
762.0+ ond is na 914.4 |
152.4+ (500tr) | Corbett | |
30.5+ (100tr) ond is na 152.4 |
Corbett Top | |||
2000+ ond is na 2500 |
609.6+ ond is na 762.0 |
150+ | Graham | |
30+ ond is na 150 |
Graham Top | |||
2000+ | 609.6+ | 30+ | Hewitt | |
15+ | Nuttall | |||
500+ ond is na 609.6 |
30+ | Dewey |
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) [http://www.biber.fsnet.co.uk/database_notes.html Gwefan "Database of British Hills"