Austin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: mrj:Остин (Техас) |
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: be:Горад Осцін |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
[[az:Ostin]] |
[[az:Ostin]] |
||
[[bat-smg:Ostins]] |
[[bat-smg:Ostins]] |
||
[[be:Горад Осцін]] |
|||
[[bg:Остин (Тексас)]] |
[[bg:Остин (Тексас)]] |
||
[[ca:Austin]] |
[[ca:Austin]] |
Fersiwn yn ôl 08:10, 30 Mai 2011
Austin yw prifddinas y dalaith Americanaidd, Texas, Unol Daleithiau. Dyma yw'r bedwaredd ddinas fwyaf yn Texas a'r unfed ar ddeg ddinas fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â hyn, Austin oedd y drydedd ddinas a ehangodd gyflymaf yn y wlad rhwng 2000 a 2006. Mae gan Austin boblogaeth o 743,074. Y ddinas yw canolbwynt diwylliannol ac economaidd yr ardal metropolitanaidd Austin–Round Rock gyda phoblogaeth o tua 1.6 miliwn o bobl.
Sefydlwyd yr ardal yn ystod y 1830au ar lannau'r Afon Colorado gan ymgartrefwyr gwyn, a alwodd y pentref yn Waterloo. Ym 1839, dewiswyd Waterloo fel prif ddinas Gweriniaeth Texas a oedd newydd gael ei hannibyniaeth. Ail-enwyd y ddinas yn Austin ar ôl Stephen F. Austin. Tyfodd y ddinas trwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a daeth yn ganolfan ar gyfer y llywodraeth ac addysg wrth i Gapitol Talaith Texas a Phrifysgol Texas gael eu sefydlu yno. Wedi cyfnod o ddiffyg twf ar ôl y Dirwasgiad Mawr parhaodd Austin ei datblygiad i fod yn ddinas a oedd yn ganolbwynt technoleg a busnes.