Al-Fâtiha: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn newid: ko:알파티하 |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: lt:Al Fatiha |
||
Llinell 43: | Llinell 43: | ||
[[ku:Fatihe]] |
[[ku:Fatihe]] |
||
[[la:Al-Fatiha]] |
[[la:Al-Fatiha]] |
||
[[lt:Al Fatiha]] |
|||
[[mk:Ел-Фатиха]] |
[[mk:Ел-Фатиха]] |
||
[[ml:അൽ ഫാത്തിഹ]] |
[[ml:അൽ ഫാത്തിഹ]] |
Fersiwn yn ôl 12:16, 29 Mai 2011
Al-Fâtiha ("Yr hyn sy'n agor", "agoriad") yw sŵra agoriadol y Coran. Mae'n un o destunau sylfaenol Islam, a elwir mewn rhai o'r Hadithau yn "Fam y Llyfr" (Umm al-Kitab) a "Mam y Coran" (Umm al-Qur'an). Fe'i hadroddir gan bob Mwslim uniongred ar ddechrau ei weddïo defodol, bum gwaith y dydd. Ar ôl adrodd y Fâtiha mae'n arferol dweud âmin (Amen). Mae'n un o'r sŵras byrraf yn y Coran, ac iddi 7 pennill (âya) byr yn unig:
- Yn enw'r Duw Trugarhaol, Rhoddwr pob daioni.
- Moliant i Dduw, Arglwydd y Bydysawd,
- Rhoddwr pob daioni, y Trugarhaol,
- Brenin Dydd y Farn Olaf.
- Fe'th addolwn; atat Ti yn unig trown am gymorth.
- Arwain ni hyd Llwybr Cyfiawnder,
- Llwybr y rhai sydd wedi derbyn Dy ddaioni, y rhai nad ennynant Dy ddicter, y rhai nad ydynt ar gyfeiliorn.