Morffoleg (iaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: jv:Morfologi (linguistik) |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: hy:Ձևաբանություն (լեզվաբանություն) |
||
Llinell 49: | Llinell 49: | ||
[[hsb:Morfologija]] |
[[hsb:Morfologija]] |
||
[[hu:Morfológia (nyelvészet)]] |
[[hu:Morfológia (nyelvészet)]] |
||
[[hy:Ձևաբանություն]] |
[[hy:Ձևաբանություն (լեզվաբանություն)]] |
||
[[ia:Morphologia linguistic]] |
[[ia:Morphologia linguistic]] |
||
[[id:Morfologi (linguistik)]] |
[[id:Morfologi (linguistik)]] |
Fersiwn yn ôl 14:27, 28 Mai 2011
Mewn ieithyddiaeth, morffoleg yw'r astudiaeth o adeiladwaith geiriau, am y rhyngwyneb rhwng ffonoleg a chystrawen. Mae cydrannau yn eiriau, sy'n cael eu hadnabod fel morffemau.
Gwahaniaethir rhwng morffoleg ffurfdroadol a morffoleg darddiadol. Mae morffoleg ffurfdroadol yn ymdrin â sut mae geiriau'n newid eu siâp i fynegi nodweddion gramadegol megis rhif (unigol neu luosog) a chyflwr mewn enwau, neu amser (presennol neu gorffennol) a pherson mewn berfau. Mae morffoleg darddiadol ar y llaw arall yn ymdrin â sut mae morffemau yn clymu wrth ei gilydd i fynegi gwahaniaethau geirfaol, fel, er enghraifft, y gellir creu ansoddeiriau yn y Gymraeg drwy ychwanegu'r olddodiad -og at fôn enw, megis haul + -og > heulog.
Fel arfer, mae morffemau ffurfdroadol yn digwydd yn agosach at fôn gair na morffemau tarddiadol. Gwelir hyn yn y Gymraeg mewn ffurf megis lleihaodd, sy'n cynnwys tair morffem, llai + -ha- 'peri' + -odd 'trydydd unigol gorffennol'. Morffem darddiadol yw -ha- sy'n creu berf yn golygu 'peri i fod yn' allan o ansoddair, a morffem ffurfdroadol yw -odd gan ei bod hi'n mynegi nodwedd ramadegol, amser gorffennol. Mae'r drefn yn yr achos hwn felly yn adlewyrchu'r tueddiad cyffredinol mewn iaith.