Charles de Gaulle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
bywyd personol |
manion |
||
Llinell 47: | Llinell 47: | ||
== Ei ddylanwad == |
== Ei ddylanwad == |
||
Am flynyddoedd lawer ar ôl ei farwolaeth |
Am flynyddoedd lawer ar ôl ei farwolaeth ym 1970 roedd ei bolisïau [[Gaulliaeth|Gaullaidd]] yn ddylanwadol iawn yng ngwleidyddiaeth Ffrainc. Mae'n parhau'n ffigwr dadleuol heddiw. |
||
Roedd ei |
Roedd ei ewythr, hefyd o'r enw [[Charles de Gaulle (llenor)|Charles de Gaulle]], yn fardd [[Llydaweg]] ac yn un o arloeswyr [[Pan-Geltigiaeth]]. |
||
Fersiwn yn ôl 20:47, 22 Mai 2011
Arlywydd Charles de Gaulle | |
Charles de Gaulle | |
18fed Arlywydd Ffrainc
| |
Cyfnod yn y swydd 8 Ionawr 1959 – 28 Ebrill 1969 | |
Prif Weinidog | Michel Debré Georges Pompidou Maurice Couve de Murville |
---|---|
Rhagflaenydd | René Coty |
Olynydd | Georges Pompidou |
Geni | 22 Tachwedd 1890 Lille |
Marw | 9 Tachwedd 1970 Colombey-les-Deux-Églises |
Plaid wleidyddol | UDR |
Priod | Yvonne de Gaulle |
Gwleidydd a chadfridog o Ffrainc oedd Charles André Joseph Marie de Gaulle (22 Tachwedd, 1890 - 9 Tachwedd, 1970). Fe'i ganwyd yn Lille. Fe'i ystyrir yn un o ffigurau gwleidyddol pwysicaf yr 20fed ganrif.
Gyrfa gynnar
Roedd yn swyddog galluog a daeth i'r amlwg yn y 1930au pan gyhoeddodd ei lyfr Vers l'armeé de métier (1934), lle mae'n dadlau dros greu byddin fodern broffesiynol. Cafodd ei ddyrchafu'n gadfridog yn 1940 pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan. Roedd yn aelod o gabinet Paul Reynaud ond gwrthwynebai'r cytundeb armistis a gadwai Ffrainc allan o'r rhyfel.
Yr Ail Ryfel Byd
Yn dilyn cwymp Ffrainc i fyddin yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd, bu'n cynnal o Loegr lywodraeth alltud o'r enw Ffrainc Rydd. Yn y cyfnod anodd hwnnw daeth de Gaulle i fod yn symbol o wladgarwch i nifer o Ffrancod. Ond roedd tensiynau yn bodoli eisoes ym mherthynas de Gaulle â llywodraethau Prydain Fawr ac America. Teimlai de Gaulle fod y Cynghreiriad yn ei ddefnyddio. Yn 1943 fe'i penodwyd yn llywydd y Pwyllgor dros Ryddhad Cenedlaethol, a oedd newydd ei sefydlu, yn Algiers. Ar ddiwedd y rhyfel ffurfiodd lywodraeth dros dro; ef oedd yr arlywydd o 1945 hyd ei ymddeoliad ohono yn 1946.
Y cyfnod ôl-ryfel
Ym 1947 sefydlodd y Rassemblement du Peuple Français ond nid oedd yn llwyddianus iawn ac fe'i diddymwyd ganddo ym 1953. Ymddeolodd o wleidyddiaeth am gyfnod.
Arlywydd y Bumed Weriniaeth
Algeria
Cafodd de Gaulle ei alw i arwain ei wlad oherwydd yr argyfwng yn Algeria ym 1958. Roedd nifer o'r ymsefydlwyr Ffrengig yn y wlad honno yn gwrthryfela yn erbyn llywodraeth Ffrainc am eu bod yn ofni annibyniaeth.
Diwrnod y Siacal
Ym Medi 1961 ceisiodd y mudiad terfysgol asgell dde, yr Organisation de l'Armée secrète (OAS), ei lofruddio am ei fod yn barod i ildio annibyniaeth ar Ffrainc i Algeria. Seiliodd y nofelydd Frederick Forsyth ei nofel Day of the Jackal ar y digwyddiad a chafwyd ffilm enwog o'r un enw yn 1973 yn ogystal.
Ar lwyfan y byd
Wedi i Algeria gael ei hannibyniaeth yn 1962, canolbwyntiodd de Gaulle ar safle Ffrainc ar y llwyfan ryngwladol. Roedd Ffrainc wedi colli nifer o'i drefedigaethau, neu ar fin eu colli, a theimlai fod Prydain ac America yn ceisio gwthio'r wlad o'r neilltu. Gweithiodd yn galed o blaid ei weledigaeth o Ewrop o wledydd annibynnol ond cydweithredol a fyddai'n rhydd o ddylanwad yr Unol Daleithiau. Gwrthododd lofnodi'r Cytundeb Gwahardd Profi Arfau Niwclear yn 1963 a thynnodd Ffrainc allan o NATO yn 1966. Gwrthwynebai gais Prydain i ymuno â'r EEC.
Problemau domestig
Ond wynebai densiynau cynyddol yn Ffrainc ei hun. Roedd protestiadau anferth Mai, 1968 gan fyfyrwyr a gweithwyr yn argyfwng iddo. Ymddeolodd yn 1969 yn sgîl colli refferendwm ar ddiwygiad cyfansoddiadol.
Bywyd personol
Priododd Charles de Gaulle Yvonne Vendroux ar 7 Ebrill 1921. Cafon nhw tri phlentyn: Philippe (ganwyd 1921), Élisabeth (1924), a briododd y Cadfridog Alain de Boissieu, ac Anne (1928–1948). Roedd gan Anne syndrom Down a bu farw'n oed 20.
Ei ddylanwad
Am flynyddoedd lawer ar ôl ei farwolaeth ym 1970 roedd ei bolisïau Gaullaidd yn ddylanwadol iawn yng ngwleidyddiaeth Ffrainc. Mae'n parhau'n ffigwr dadleuol heddiw.
Roedd ei ewythr, hefyd o'r enw Charles de Gaulle, yn fardd Llydaweg ac yn un o arloeswyr Pan-Geltigiaeth.
Rhagflaenydd: Michel Debré |
Prif Weinidog Ffrainc 1 Mehefin 1958 – 8 Ionawr 1959 |
Olynydd: Michel Debré |
Rhagflaenydd: René Coty |
Arlywydd Ffrainc 8 Ionawr 1959 – 28 Ebrill 1969 |
Olynydd: Georges Pompidou |
Rhagflaenydd: René Coty a Ramon Iglesias i Navarri |
Hanner-Tywysog Andorra 1959 – 1969 gyda Ramon Iglesias i Navarri |
Olynydd: Georges Pompidou a Ramón Malla Call |