Thebai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: fa:تبس (یونان)
Sz-iwbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.4.3) (robot yn newid: nn:Thíva
Llinell 38: Llinell 38:
[[nds:Theben (Böotien)]]
[[nds:Theben (Böotien)]]
[[nl:Thebe (Griekenland)]]
[[nl:Thebe (Griekenland)]]
[[nn:Theben i Hellas]]
[[nn:Thíva]]
[[no:Theben (Hellas)]]
[[no:Theben (Hellas)]]
[[pl:Teby (Grecja)]]
[[pl:Teby (Grecja)]]

Fersiwn yn ôl 20:42, 17 Mai 2011

Am y ddinas yn yr Hen Aifft, gweler Thebes, Yr Aifft. Gweler hefyd Thebes.

Roedd Thebai (Hen Roeg: ΘῆβαιThēbai; hefyd Thebes) yn ddinas yn Boeotia, oedd yn un o ddinasoedd pwysicaf Groeg yr Henfyd. Enw'r dref fodern ar y safle yw Thiva (Groeg: Θήβα).

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd y ddinas gan Cadmos, mab brenin Sidon. Tua diwedd y 6ed ganrif CC. daeth Thebai i wrthdrawiad ag Athen am y tro cyntaf, pan gynorthwyodd yr Atheniaid ddinas lai Plataea yn eu herbyn. Pan ymosododd Ymerodraeth Persia ar y Groegiaid yn 480 CC., gyrroedd Thebai 700 o filwyr i ymladd ym Mrwydr Thermopylae dan Leonidas, ond roedd rhain yn ŵyr oedd yn gwrthwynebu polisi llywodraethwyr y ddinas. Ymunodd yr uchelwyr oedd mewn grym yn Thebai â Xerxes yn erbyn y Groegiaid eraill, ac ymladdasant drosto ym Mrwydr Plataea yn 479 CC.. Cefnogodd Thebai Sparta yn erbyn Athen yn y Rhyfel Peloponnesaidd, ac yn 424 CC. gorchfygasant Athen ym Mrwydr Delium.

Wedi buddugoliaeth Sparta yn y rhyfel, trôdd Thebai yn ei herbyn. Ym Mrwydr Leuctra yn 371 CC. enillodd Thebai dan Epaminondas fuddugoliaeth syfrdanol dros Sparta, a'i gwnaeth y ddinas fwyaf pwerus yng Ngroeg am gyfnod. Daeth y cyfnod yma i ben pan laddwyd Epaminondas ym Mwydr Mantinea yn 362 CC.