Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sgwrs Defnyddiwr:Pwyll"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 1,451 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
:Dw i ddim yn siwr i fod yn onest. Bues i'n weinyddwr am gyfnod o ryw 6 mis beth amser yn ôl ac yn ystod y cyfnod hwnnw gwnes i ryw faint o waith ar wella diwyg y tudalennau, ychwanegu tudalennau cymorth a.y.b. Y broblem sydd gen i yw hyn: Pa fath o ddyfyniadau dylid cynnwys ar y wefan? A yw cyfieithiadau o'r Saesneg yn dderbyniol (achos mewn gwirionedd nid yw hynny wir yn ddyfyniadau go iawn gan y person? Hefyd, faint o ddefnydd sy'n cael ei wneud o'r safle mewn gwirionedd?
:Wedi dweud hynny, dw i'n parhau i bopo mewn i'r Wiciquote yn achlysurol er mwyn gwirio nad oes fandaliaeth ac ymateb i negeseuon ym Mhorth Y Gymuned a.y.b. O ran yr enwebiad, dw i'n ddigon parod i fod yn weinyddwr yno unwaith eto ond efallai er mwyn gallu goruwchwylio newidiadau diweddar a.y.b. yn hytrach na chreu dyfyniadau newydd. [[Defnyddiwr:Pwyll|Pwyll]] 08:09, 15 Mai 2011 (UTC)
::Iawn. Does dim llawer y gallwn wneud nes y daw criw digon mawr at y wefan a dechrau ychwanegu deunydd. Bydd neb llawer yn gallu defnyddio'r safle hyd nes bod digon o ddeunydd i bori arno. Mae digon o ddyfyniadau ar Wikiquote mewn ieithoedd eraill sydd wedi eu cyfieithu o wahanol ieithoedd (Hen Roeg, Lladin, Ffrangeg, Almaeneg Tsieineeg) felly dylai fod yn dderbyniol i gyfieithu o'r Saesneg hefyd. Ond gan fod siaradwyr Cymraeg bron i gyd yn medru Saesneg, ac yn gallu darllen y dyfyniadau yn y gwreiddiol, efallai bod mwy o werth mewn dechrau gyda dyfyniadau Cymraeg ac o ieithoedd eraill yn gyntaf, cyn ychwanegu criw Shakespeare. Ond beth am ychwanegu diarhebion Cymraeg naill ai ar Wicidyfynnu neu ar Wicitestun? Os ydym yn gweld gwerth mewn ychwanegu diarhebion Cymraeg rhywle o fewn prosiectau Wikimedia yna gallem addasu polisi un o'r prosiectau i'w derbyn, byddwn i'n tybied. Beth yw dy farn?
 
::I ti gael gwybod mae rhagor o drafod wedi digwydd y penwythnos hwn ar [http://meta.wikimedia.org/wiki/Language_committee/May_2011_meeting bolisi cau wicis] lle nad oes fawr yn digwydd arnynt. Y mae'n bosib y caiff y 4 wici bach Cymraeg eu cynnig i gael eu cau rhywdro, gyda'r wicis distadl eraill; ond mae'n debyg mai eu rhewi y caent, yn hytrach na'u dileu'n llwyr. Byddai modd eu hailagor wedyn petai digon o gyfrannwyr yn cynnig eu cynnal. Felly ni fyddai'n gwaith yn mynd yn ofer. [[Defnyddiwr:Lloffiwr|Lloffiwr]] 14:30, 15 Mai 2011 (UTC)
9,149

golygiad

Llywio