Defnyddiwr:Blogdroed/Pwll Tywod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
Roedd yn gapten ar dîm [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Cymru]] yn eu gêm rhyngwladol gyntaf erioed yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Alban|yr Alban]] yn 1876 ac aeth ymlaen i ennill pum cap, yr olaf yn dod ym muddugoliaeth gyntaf y Cymry a hynny yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr|Lloegr]] yn [[Blackburn]] yn 1881<ref name="whoswho" /><ref>{{cite web|url=http://welshfootball.online/results/res1876.html |title=Results 1876 - 1889 |publisher=Welsh Football Online}}</ref>. |

||
==Gweinyddwr Pêl-droed== |
|||
===Cymdeithas Bêl-droed Cymru== |
|||
Ym mis Ionawr 1876 gwelodd Kenrick hysbyseb yng nghylchgrawn ''The Field'', yn galw am dîm Cymreig i chwarae gêm bêl-droed yn erbyn Yr Alban neu Iwerddon o dan reolau rygbi, ond roedd Kenrick yn benderfynol o greu tîm yn chwarae rheolau pêl-droed a hysbysebodd am chwaraewyr fyddai â diddordeb chwarae i gysylltu ag ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cambria<ref name="new craze" /><ref name= "Challenge">{{Cite web|url=https://www.wrexham.gov.uk/welsh/heritage/welsh_football_w/index.htm#q1876|title=1876 Sialens Kenrick|work=Cartref Ysbrydol Pêl-droed Cymru|publisher=Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam|accessdate=23 March 2010}}</ref>}}. |

Galwodd Kenrick gyfarfod ar 26 Ionawr 1876 er mwyn sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cambria a threfnu gemau prawf ar gyfer dewis tîm i herio'r Alban ond erbyn yr ail gyfarfod ar 2 Chwefror 1876 yng ngwesty'r Wynnstay Arms, [[Wrecsam]] roedd wedi newid yr enw i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'r cyfarfod yma sydd yn cael ei ystyried gan y Gymdeithas fel y cyfarfod lle'i ffurfiwyd.<ref>{{cite book}}</ref> |
|||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
Fersiwn yn ôl 16:41, 3 Ebrill 2020
Ar Faes y Gâd
Robert Herbert Mills-Roberts | Morgan Maddox Morgan-Owen | Albert Westhead Pryce-Jones | William Ernest Pryce-Jones | Leigh Richmond Roose | Fred Keenor | George Latham | Harry Beadles |Arnold Dargie
Llewelyn Kenrick
Blogdroed/Pwll Tywod | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Cyfreithiwr a phêl-droediwr oedd Samuel Llewelyn Kenrick (1847 – 29 Mai 1933). Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac hefyd yn gyfrifol am drefnu gêm bêl-droed rhyngwladol cyntaf Cymru a hynny yn erbyn Yr Alban yn 1876.
Bywyd
Ganed Llewelyn Kenrick i deulu o ddiwydianwyr Wynn Hall, Rhiwabon a'i dad, John Kenrick, sefydlodd Pwll Glo Wynn Hall ym Mhenycae[1]. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon, Sir Ddinbych. Daeth yn gyfreithiwr yn Rhiwabon, yn glerc i ynadon heddwch Rhiwabon (1896-1933), a bu'n grwner adran ddwyreiniol Sir Ddinbych o 1906 hyd ei farwolaeth. Ym 1909 daeth yn briod â Lillian Maud, merch y Parchedig A. L. Taylor, prifathro Ysgol Ramadeg Rhiwabon[2]. Bu farw ar 29 Mai 1933, a cafodd ei gladdu yn Rhiwabon.
Chwaraeodd ei frawd yng nghyfraith, Charles Taylor, rygbi dros Gymru gan ennill naw cap rhwng 1884 a 1887. Cafodd Taylor ei ladd ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf[3][4]
Chwaraewr Pêl-droed
Shropshire Wanderers
Roedd Kenrick yn aelod o dîm Shropshire Wanderers chwaraeodd yn erbyn Plasmadoc ym 1872 ac o ganlyniad cafodd ei ddylanwadu i geisio sefydlu tîm pêl-droed o safon yn ei dref enedigol, ac am gyfnod roedd yn chwarae i dîm y Derwyddon ac i Shropshire Wanderers[5]. Roedd yn aelod o dîm Shropshire Wanderers gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr ym 1875 cyn colli yn erbyn yr Old Etonians[6]
Y Derwyddon
Ym 1872 roedd yn allweddol wrth uno tri o glybiau pentref Rhiwabon sef Plasmadoc, Ruabon Rovers a Ruabon Volunteers er mwyn creu Y Derwyddon[7]. Pedair mlynedd yn ddiweddarch, roedd Kenrick yn allweddol wrth sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn trefnu gêm rhyngwladol yn erbyn Yr Alban a cafwyd chwe chwaraewr o glwb Y Derwyddon, gan gynnwys Kenrick ei hun, yn chwarae yn y gêm hanesyddol cyntaf dros Gymru[8].
Cymru
Roedd yn gapten ar dîm Cymru yn eu gêm rhyngwladol gyntaf erioed yn erbyn yr Alban yn 1876 ac aeth ymlaen i ennill pum cap, yr olaf yn dod ym muddugoliaeth gyntaf y Cymry a hynny yn erbyn Lloegr yn Blackburn yn 1881[6][9].
Gweinyddwr Pêl-droed
=Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Ym mis Ionawr 1876 gwelodd Kenrick hysbyseb yng nghylchgrawn The Field, yn galw am dîm Cymreig i chwarae gêm bêl-droed yn erbyn Yr Alban neu Iwerddon o dan reolau rygbi, ond roedd Kenrick yn benderfynol o greu tîm yn chwarae rheolau pêl-droed a hysbysebodd am chwaraewyr fyddai â diddordeb chwarae i gysylltu ag ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cambria[5][10]}}.
Galwodd Kenrick gyfarfod ar 26 Ionawr 1876 er mwyn sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cambria a threfnu gemau prawf ar gyfer dewis tîm i herio'r Alban ond erbyn yr ail gyfarfod ar 2 Chwefror 1876 yng ngwesty'r Wynnstay Arms, Wrecsam roedd wedi newid yr enw i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'r cyfarfod yma sydd yn cael ei ystyried gan y Gymdeithas fel y cyfarfod lle'i ffurfiwyd.[11]
Llyfryddiaeth
- Davies, Gareth M; Garland, Ian (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. Bridge Books. ISBN 1-872424-11-2.
- Samuel, Bill (2009). The Complete Wales FC 1876-2008. Soccer Books. ISBN 1-86223-176-1.
- Stead, Phil (2012). Red Dragons: The story of Welssh Football. Y Lolfa. ISBN 1784-61236-7.
Cyfeiriadau
- ↑ "Wynn Hall: A Grade II* Listed Building in Penycae, Wrexham". British Listed Buildings.
- ↑ "Family Notices". Llangollen Advertiser. 26 Tachwedd 1909.
- ↑ "Lest We Forget – Charles Gerald Taylor (Wales) 24/01/1915". World Rugby Museum.
- ↑ Prescott, Gwyn (2014). Call Them to Remembrance: The Welsh Rugby Internationals who died in the Great War. St. David.s Press. ISBN 978-1-902719-37-5.
- ↑ 5.0 5.1 Johnes, Martin; Garland, Ian (Rhagfyr 2004). "'The New Craze': Football and Society in North-East Wales, c.1870-90". Welsh History Review.
- ↑ 6.0 6.1 Davies, Gareth; Garland, Ian (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. Bridge Books. tt. 119–120. ISBN 1-872424-11-2.
- ↑ "Cefn Druids: Our History". cefndruidsafc.com.
- ↑ "Welsh Football Data Archive: 1876 Scotland v Wales". Welsh Football Data Archive.
- ↑ "Results 1876 - 1889". Welsh Football Online.
- ↑ "1876 Sialens Kenrick". Cartref Ysbrydol Pêl-droed Cymru. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cyrchwyd 23 March 2010.
- ↑ Empty citation (help)