Gabriel Goodman: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) newydd |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 16:56, 10 Mai 2011
Deon San Steffan ac ail-sefydlydd Ysgol Rhuthin oedd Gabriel Goodman (6 Tachwedd 1528 – 17 Mehefin 1601).
Ei fywyd cynnar
Ganwyd Gabriel Goodman yn Tŷ Nantclwyd, Rhuthin, Sir Ddinbych, yn ail fab i'r masnachwr cefnog Edward Goodman. Prin yw'r wybodaeth am ei flynyddoedd cynnar, ond awgryma bywgraffiad ohono o'r 19eg ganrif y cafodd ei addysgu adref gan un o offeiriaid yr eglwys golegol a oedd wedi'u diddymu. Fodd bynnag awgryma'r ffaith iddo fynychu Prifysgol Rhydychen yn neu tua 1543 ac yna Prifysgol Caergrawnt yn hwyrach (lle derbyniodd B.A.) ei fod wedi derbyn hyfforddiant gramadegol ffurfiol.