Siartiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Gwybodlen |
gwella |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
== Cymru == |
== Cymru == |
||
Yn yr ardaloedd diwydiannol o GYmru achosodd y [[Y Chwyldro Diwydiannol|Chwyldro Diwydiannol]] amrywiaeth o broblemau ym mywyd bob dydd ac ym mywyd gwaith bobl. Cododd gweithwyr [[haearn]] [[Merthyr Tudful|Merthyr]] mewn terfysg ym Mehefin 1831 oherwydd yr amodau byw afiach, gor-boblog a’r epidemigau o [[Colera|Golera]] oedd yn dod yn sgil hynny oherwydd diffyg cyflenwadau dŵr glan. Roedd yr amodau gwaith yn y gweithfeydd yn beryglus a thrwy’r System Dryc’ roedd gafael haearnaidd y meistri haearn yn cryfhau ar y gweithwyr. Yn ychwanegol at hynny doedd dim pleidlais gan y gweithwyr i fynegi eu cwynion am eu hamgylchiadau. |
|||
⚫ | |||
Yn ôl yn 1839 roedd yn rhaid pleidleisio yn agored, unai drwy godi llaw mewn torf neu drwy weiddi enw’r dyn roeddech eisiau pleidleisio drosto. Roedd hyn yn creu problem. Gallai pobl gael eu bygwth a llwgrwobrwyo i bleidleisio dros rai ymgeiswyr. Cafwyd achosion lle collodd rhai eu cartrefi oherwydd eu bod wedi pleidleisio yn erbyn eu landlord. Credai’r Siartwyr y dylai pob dyn dros 21 gael yr hawl i bleidleisio yn gudd, ac y dylai aelodau seneddol gael tâl. |
|||
⚫ | Maes glo'r de oedd cadarnle'r Siartwyr. Yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]], y Siartydd mwyaf amlwg oedd [[Hugh Williams]], a oedd yn frawd yng nghyfraith i Richard Cobden, y gwleidydd radicalaidd. Yn [[Llanelli]] yr oedd [[David Rees]] golygydd ''[[Y Diwygiwr]]'' yn ffigwr amlwg. Ym [[Merthyr Tudful]], roedd [[Morgan Williams]]; yr enwog Dr [[Willliam Price]] o [[Llantrisant|Lantrisant]]; a [[John Frost]] yn [[Sir Fynwy]]. Dedfrydwyd Frost a'i ddilynwyr yn [[Neuadd y Sir, Trefynwy]] i'w [[Crogi, diberfeddu a chwarteru|crogi a'u chwarteru]]. |
||
{{eginyn hanes}} |
{{eginyn hanes}} |
Fersiwn yn ôl 12:25, 30 Mawrth 2020
Murlun o Chwyldro Casnewydd (1839) | |
Enghraifft o'r canlynol | mudiad gwleidyddol |
---|---|
Idioleg | radicaliaeth gwleidyddol |
Sylfaenydd | William Lovett |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mudiad a hawliai wellianau yn amodau byw a hawliau dinesig y gweithiwr cyffredin rhwng 1838 a 1858 oedd Siartiaeth neu Fudiad y Siartwyr. Roedd y mudiad yn weithgar yng Nghymru a Lloegr. Cafodd ei sefydlu gan 'Siarter y Bobl' a gyhoeddwyd ym Mai 1838.
Roedd yn ei anterth yn 1839, 1842, a 1848 a chyflwynwyd deiseb i Dŷ'r Cyffredin yn hawlio newid. Ar y cyfan, defnyddiwyd dulliau cwbwl ddi-drais fel cyfarfodydd a deisebion. Yr ardaloedd mwyaf gweithgar oedd ardaloedd glo De Cymru, Gogledd Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Ardal y Crochendai, Stafford a'r Black Country, sef bwrdeistrefi Dudley, Sandwell a Walsall.
Cymru
Yn yr ardaloedd diwydiannol o GYmru achosodd y Chwyldro Diwydiannol amrywiaeth o broblemau ym mywyd bob dydd ac ym mywyd gwaith bobl. Cododd gweithwyr haearn Merthyr mewn terfysg ym Mehefin 1831 oherwydd yr amodau byw afiach, gor-boblog a’r epidemigau o Golera oedd yn dod yn sgil hynny oherwydd diffyg cyflenwadau dŵr glan. Roedd yr amodau gwaith yn y gweithfeydd yn beryglus a thrwy’r System Dryc’ roedd gafael haearnaidd y meistri haearn yn cryfhau ar y gweithwyr. Yn ychwanegol at hynny doedd dim pleidlais gan y gweithwyr i fynegi eu cwynion am eu hamgylchiadau.
Yn ôl yn 1839 roedd yn rhaid pleidleisio yn agored, unai drwy godi llaw mewn torf neu drwy weiddi enw’r dyn roeddech eisiau pleidleisio drosto. Roedd hyn yn creu problem. Gallai pobl gael eu bygwth a llwgrwobrwyo i bleidleisio dros rai ymgeiswyr. Cafwyd achosion lle collodd rhai eu cartrefi oherwydd eu bod wedi pleidleisio yn erbyn eu landlord. Credai’r Siartwyr y dylai pob dyn dros 21 gael yr hawl i bleidleisio yn gudd, ac y dylai aelodau seneddol gael tâl.
Maes glo'r de oedd cadarnle'r Siartwyr. Yng Nghaerfyrddin, y Siartydd mwyaf amlwg oedd Hugh Williams, a oedd yn frawd yng nghyfraith i Richard Cobden, y gwleidydd radicalaidd. Yn Llanelli yr oedd David Rees golygydd Y Diwygiwr yn ffigwr amlwg. Ym Merthyr Tudful, roedd Morgan Williams; yr enwog Dr Willliam Price o Lantrisant; a John Frost yn Sir Fynwy. Dedfrydwyd Frost a'i ddilynwyr yn Neuadd y Sir, Trefynwy i'w crogi a'u chwarteru.