Gŵyl Galan Awst: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: hu:Lughnasad |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: no:Lugnasad |
||
Llinell 44: | Llinell 44: | ||
[[nl:Lughnasadh]] |
[[nl:Lughnasadh]] |
||
[[nn:Lugnasad]] |
[[nn:Lugnasad]] |
||
[[no:Lugnasad]] |
|||
[[pl:Lughnasadh]] |
[[pl:Lughnasadh]] |
||
[[pt:Lughnasadh]] |
[[pt:Lughnasadh]] |
Fersiwn yn ôl 16:57, 8 Mai 2011
Dethlir Gŵyl Galan Awst ar y cyntaf o Awst. Yn ei gwreiddiau, mae'n ŵyl Geltaidd hynafol a gafodd ei chymryd drosodd gan yr Eglwys Gristnogol yn yr Oesoedd Canol fel sawl gŵyl baganaidd arall. Gelwir hi hefyd wrth yr enw Gwyddeleg Lughnasadh (weithiau hefyd Lugnasad, sy'n cyfateb i raddau i ŵyl Lammas yn nhraddodiadau'r Alban a Lloegr).
Yn Canzo, yng ngogledd yr Eidal, mae'r trigolion lleol yn dal i ddathlu'r festa del sole ar y diwrnod yma ac felly hefyd yn y Swistir lle ceir gŵyl banc genedlaethol ar y diwrnod hwn a chynnau coelcerthi.
Lugnasad
Yng Ngwyddeleg, adnabyddir Gŵyl Galan Awst fel Lughnasadh. Fe'i chysylltir â'r duw Lleu neu Lug/Lugh (yn enwedig Lug mac Ethnenn). Enw'r Rhufeiniaid ar Lyons (Ffrainc) oedd Lugudunum (Caer Lleu) a chaed Gŵyl Awgwstws yno fel dathliad o'r hen dduw Celtaidd. Felly hefyd yn Iwerddon lle parodd gŵyl Lughnasadh tan yn ddiweddar. Gŵyl yn ymwneud â goleuni ydoedd hi, ac amaethyddiaeth a chyneuwyd coelcerthi ym mhobman i'w dathlu.[1]
Dynodai Lugnasad ddechrau tymor y cynhaeaf ac fe'i dethlid gyda gwleddoedd mawr cyhoeddus. Yn ôl y Sanas Chormaic (Gloseg Cormac) gan yr esgob Cormac, cafodd Lugnasad ei sefydlu gan Lug mac Ethnenn ei hun yn y cyfnod cynhanesyddol. Cydnabyddir fod yr enw yn tarddu o enw Lugh.[2]
Lammas
Dethlid gŵyl gyffelyb yn yr Alban a Lloegr wrth yr enw Lammas neu Lammas Day. Byddai pobl yn dod â thorth wedi'i gwneud o'r gwenith cyntaf i gael ei fedi i'r eglwys fel offrwm ar y 1af o Awst.[3]
Llyfryddiaeth
- M. MacNéill, The Festival of Lughnasa (Dulyn, ail arg., 1982)
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
|