Planhigyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
FoxBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: hy:Բույս |
B r2.7.1) (robot yn newid: war:Tanaman |
||
Llinell 229: | Llinell 229: | ||
[[vls:Plantn]] |
[[vls:Plantn]] |
||
[[wa:Plante]] |
[[wa:Plante]] |
||
[[war: |
[[war:Tanaman]] |
||
[[wo:Gàncax]] |
[[wo:Gàncax]] |
||
[[yi:פלאנץ]] |
[[yi:פלאנץ]] |
Fersiwn yn ôl 20:51, 7 Mai 2011
Planhigion | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Parth: | Eukaryota |
Ddim wedi'i restru: | Archaeplastida |
Teyrnas: | Plantae Haeckel, 1866 |
Rhaniadau/Ffyla | |
|
Grŵp o bethau byw yw planhigion. Ceir tua 300,000 o rywogaethau, gan gynnwys coed, blodau, glaswelltau, rhedyn, mwsoglau a rhai grwpiau o algâu. Astudiaeth planhigion yw botaneg. Organebau amlgellog (ac eithrio rhai o'r algâu) ac ewcaryotig yw planhigion. Maent i gyd yn creu bwyd eu hun drwy ffotosynthesis gan ddefnyddio cloroffyl.
Tacsonomeg
Dosberthir planhigion yn y deyrnas Plantae. Mae'r deyrnas hon yn cynnwys y planhigion tir (Embryophyta) ac, yn aml, mae'n cynnwys yr algâu gwyrdd (Chlorophyta a Charophyta) hefyd. Weithiau, mae'r algâu coch (Rhodophyta) a'r glawcoffytau (Glaucophyta) yn cael eu cynnwys tu fewn i'r deyrnas. Dosbarthwyd grwpiau eraill o algâu, ffyngau a bacteria fel planhigion yn y gorffennol ond fe'u dosberthir mewn teyrnasoedd gwahanol bellach.
Strwythur planhigion
Celloedd planhigion
Fel arfer, mae gan gelloedd planhigion gloroplastau, gwagolyn fawr a chellfur sy'n cynnwys seliwlos.