Waffl

Oddi ar Wicipedia
Stroopwafels, sy'n cynnwys surop yn y canol

Pryd sydd wedi'i wneud o gytew neu does lefeinllyd ac sydd wedi'i goginio rhwng dwy blat gyda phatrwm arnynt er mwyn rhoi maint, siap ac arwyneb nodweddiadol iddo yw waffl. Mae nifer o amrywiaethau i'w cael yn seiliedig ar y math o haearn waffl a rysait a ddefnyddir. Mae wafflau yn cael eu bwyta ledled y byd, yn arbennig yng Ngwlad Belg, ble ceir dros ddwsin o amrywiaethau rhanbarthol. Gall wafflau gael eu gwneud yn ffres neu gael eu cynhesu wedi iddynt gael eu coginio o flaen llaw a'u rhewi.

Mae wafflau wedi bod yn cael eu cynhyrchu gan gwmni Waffls Tregroes ers 1983. Mae'r cwmni, sydd wedi'i leoli yn Llandysul ers 1994, yn cyflenwi archfarchnadoedd ledled Cymru, ac yn gwerthu yn rhyngwladol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ein hanes ni"; Tregroes Waffles; adaliwyd 22 Gorffennaf 2021