Aravrit

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae Aravrit yn wyddor ddyfeisiedig neu prosiect gelf sy'n cyfuno llythrennau'r wyddor Hebraeg a'r wyddor Arabeg.[1] Dyfeisiwyd y wyddor hybrid, nad sy'n cael eu harddel na'i defnyddio, gan Liron Lavi Turkenich, dylunydd graffig o ddinas Haifa yn Israel. Mae'r gair yn gyfuniad o Aravit (Evrit - "Hebraeg" yn yr Hebraeg ac Aravit sef "Arabeg" yn Hebraeg).

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Nododd Turkenish ei bod yn sylwi iddi basio arwyddion swyddogol tair ieithog, Hebraeg, Arabeg, Lladin(Saesneg) yn ddyddiol fel dinesydd Israeli, ond nad oedd hi'n gallu darllen Arabeg. Wrth ymchwilio i waith yr opthamologydd Ffrengig, Louis Émile Javal (1839 – 1907) was darllennodd iddo nodi bod modd i bobl ddarllen rhan uchaf llythrennau yn y wyddor Lladin a deall beth oedd wedi eu hysgrifennu. Sylweddolodd nad oedd hyn yn bosib gyda'r wyddor Hebraeg, ond nododd ei bod yn bosib o ddarllen rhan waelod y llythrennau, gan mai yno oedd y prif gwahaniaethau yng nghyfansoddiad y llythrennau. Wrth ymchwilio ymhellach deallodd bod hyn ddim yn wir gyda'r wyddor Arabeg, ond fod y wyddor hwnnw, fel y Lladin, yn benthyg ei hun i ddarllen rhan uchaf y lythyren. Gyda hynny mewn cof, aeth ati i ysgrifennu geiriau Hebraeg gan ddefnyddio'r wyddor hybrid o aelod llythrennau Hebraeg a top y lythyren gyfatebol yn Arabeg.[2]

Nodweddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfunodd Turkenich dop lythrennau Arabeg a gwaelod llythrennau Hebraeg. Bu'n rhaid i Turkenich addasu'r llythrennau i blethu i'w gilydd gan greu 638 llythyren newydd i'r sgript.[3] er mwyn cael llythyren newydd fyddai'n gweithio i'w ddau wyddor.[4]

Gofynnodd Arlywydd Israel, Ruvi Rivlin, iddi ysgrifennu gwahoddiad swyddogol yn y wyddor. Cafwyd dau blentyn bach, un yn siarad Hebrae a'r llall Arabeg a llwyddodd y ddau i ddarllen y gwahoddiad oedd wedi ei hysgrifennu mewn Aravrit, yn ddi-drafferth.[5]

Defnydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid yw'r wyddor hybrid yn derbyn unrhyw statws gwleidyddol nac yn cael ei ddefnyddio heblaw mewn ffordd symbolaidd. Mae'r dylunydd wedi cynhyrchu deunydd marchnata a gwerthu sy'n defnyddio Aravrit, megis bagiau, gemwaith a dillad.[6] a ceir enghreifftiau o arwyddion unigol, tatŵs a defnydd eraill o'r wyddor.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ling template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Eginyn Gwyddorau (iaith) Nodyn:Israel Nodyn:Hebraeg