Apton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Apton
Logo Apton.PNG
Gwefan Apton 2017.PNG
Ciplun o wefan Gymraeg Apton
URL https://www.apton.cymru/#/dashboard
Masnachol? Ydy
Math o wefan Ffrydio cerddoriaeth
Cofrestru Wedi 6 mis
Ieithoedd ar gael Cymraeg a Saesneg
Trwydded gynnwys Hawlfraint Apton
Perchennog Cwmni Recordiau Sain
Byd Apton Cyfyngedig
Lansiwyd ar Hydref 2016
Statws cyfredol Gweithredol

Gwefan a gwasanaeth ffrydio cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig yw Apton neu Aptôn[1], a lansiwyd yn Hydref 2016. Gellir gwrando ar y gerddoriaeth ar sawl dyfais, gan gynnwys y ffôn, tabled, cyfrifiadur ayb. Ceir 10,000 o draciau gan nifer o labeli, wedi'u dosbarth mewn sawl ffordd er mwyn fforio (neu fordwyo) drwyddynt yn hawdd: yn ôl arddull, artist neu'n ôl yr wyddor, neu fe ellir nodi enw'r artist neu'r albym yn y blwch chwilio. Trefnwyd a rheolir y wefan gan Sain Recordiau Cyf a Byd Apton Cyfyngedig, Llandwrog, Gwynedd. Ceir hefyd botwm ffefrynau ac mae modd gwrando ar draciau o’r rhestr chwarae all-lein.

Ceir mynediad i'r wefan am fis cyfan, am ddim, ac yna codir tanysgrifiad bychan; nid oes yn rhaid rhoi manylion cerdyn i gael mynediad am y mis cyntaf, cyfnod blasu. Ar ddiwedd y mis, codir £5 y mis am fynediad, neu £7.50 am wasanaeth ‘premiwm’ fydd yn caniatáu mynediad at fwy o ganeuon a thraciau unigryw oddi ar hen feinyls.[2]

Haciwyd gwasanaeth Apton ychydig wedi iddi gael ei lansio gan hacwyr a fynnodd bridwerth o £200 i'w rhyddhau'n ôl i ddwylo'r perchennog. Ni wnaethpwyd hynny, a llwyddwyd i'w hailosod a diogelu'r gweinydd drwy ei uwchraddio. O fewn y mis cyntaf, roedd 1,300 o bobl wedi tanysgrifio.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. golwg360.cymru; adalwyd Chwefror 2017.
  2. Gwefan cymraeg.gov.wales; adalwyd 10 Mawr 2017.