Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan

Oddi ar Wicipedia
Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan
Enghraifft o'r canlynolrhaglen deledu Edit this on Wikidata

Cyfres deledu comedi oedd Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan. Cynhyrchwyd y rhaglenni gyntaf gan Burum Cyf. ac wedyn gan Ffilmiau Llifon. Ddarlledwyd gyntaf 5 Tachwedd 1982, gyda'r bennod Fferm Syr Wynff. Darlledwyd chwe chyfres dros wyth mlynedd, gyda dwy gyfres o dan gwmni Burum a phedair o dan Gwmni Llifon. Ysgrifennwyd pob pennod gan Wynford Ellis Owen a Mici Plwm, gyda Graham Edgar yn gyfarwyddwr i Burum Cyf, a Gareth Lloyd Williams yn Gyfarwyddwr Ffilmiau Llifon, gyda Dafydd Meirion, Wynford Ellis Owen, a Gareth Lloyd Williams yn Gynhyrchwyr.

Y prif gymeriadau oedd Syr Wynff ap Concord y Bos a chwaraewyd gan Wynford Ellis Owen, a Plwmsan y Twmffat Twp, sef cymeriad Mici Plwm.

Cyhoeddwyd fod y gyfres yn dod i ben ym 1989, a threfnwyd ymgyrch i achub y cymeriadau, gyda thros 15,000 o bobl yn arwyddo deiseb a gafodd ei chyflwyno i benaethiaid S4C yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, yn Nyffryn Nantlle.

Recordiwyd y cyfresi yn Nyffryn Nantlle a'r cylch.

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

  • Syr Wynff ap Concord y Bos - Wynford Ellis Owen
  • Plwmsan y Twmffat bach Twp - Mici Plwm
  • Taid - Glyn Foulkes
  • Musus. Shop y Gornel - Falmai Jones
  • Dyfan Roberts - (chwarae llawer o'r cymeriadau ychwanegol - Postman Robaij er enghraifft)

Amlinelliad[golygu | golygu cod]

Mae'r penodau yn sôn am un peth; "fod Syr Wynff allan i gnocio’r byd ac i fod yn llwyddiannus ym mhob dim ro’dd o’n ymgyrraedd ato. Ond, ymhob pennod, wrth gwrs, byddai’n methu’n druenus yn y diwedd oherwydd ei amryfusedd ef ei hun. Plwmsan o’dd ei gymar hanner-twp, ond yn y bon, Syr Wynff o’dd y twpa ohonynt i gyd.” Wynford Ellis Owen ‘Raslas Bach a Mawr’.

Roedd bob pennod o dan y Cwmni Burum yn dechrau gyda'r olygfa y tu allan i dai Syr Wynff a Plwmsan, ac wedyn byddai Syr Wynff yn dod allan o'i dŷ, yn croesawu'r gynulleidfa drwy ddweud wrth bawb beth oedd yr Antur am y dydd. Fel arfer, tua hanner ffordd drwy'r rhaglen, mi fydd Plwmsan yn dod allan o'r drws nesaf, ac yn torri ar draws llif Syr Wynff. Yma fydd y chwarter cyntaf o'r bennod, gyda Syr Wynff yn dweud y drefn wrth Plwmsan, ac yn rhoi Slepjan neu dri iddo.

Wedyn byddai'r bennod yn dilyn Anturiaethau'r ddau wrth i Syr Wynff fynd ati i geisio fod yn llwyddiannus yn y testun a ddewisodd y dydd hwnnw.

Mae gan y ddau daid, a oedd yn byw ar ben ei hun. Unwaith roedd Syr Wynff yn gwneud, neu ddweud bod rhywbeth o'i le, roedd Taid bob amser yn bygwth Syr Wynff gyda'r 'gwialen fedw'. Roedd Taid bob amser yn cefnogi Syr Wynff gyda'i gynlluniau mawr, ond roedd Taid yn aml yn dweud wrth y gynulleidfa fod ganddo deimlad fod rhywbeth mawr am fynd o'i le.

Hefyd, bu'r ddau yn ymweld â Musus Siop y Gornel yn aml. Yma mae Plwmsan yn cael ei bop loli, ac mae Syr Wynff yn cael byw o drafferth gan geidwad y siop blin. Mae ambell bennod yn canolbwyntio ar Syr Wynff a Plwmsan yn ceisio helpu Musus Siop y Gornel, drwy naill ai'n trwsio'r Siop, neu gynnig trefnu gwyliau tramor iddi, ond, gallai warantu fod y cynlluniau mawr yn gorffen mewn anhrefn.

Comig[golygu | golygu cod]

Bu 'Syr Wynff a Plwmsan' yn ymddangos yn y cylchgrawn Sbondonics, Sboncyn, a Phenbwl yn aml iawn. Roedd y comig yn seiliedig ar ddyluniadau'r dyluniwr graffeg Keith Trodden. Dyluniadau Keith sydd hefyd ar ddechrau pob pennod o dan y cwmni Burum - lle bo Syr Wynff yn ymladd draig, dianc rhag anifeiliaid, glanio ar y lleuad ayyb, ond y cwmni Hanner Dwsin sydd yn gyfrifol am y gwaith animeiddio.

Rhyddhau[golygu | golygu cod]

Ym 1984, rhyddhawyd y cwmni Cyhoeddiadau Mei llyfr posau a chomig o'r enw Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan, a gafodd eu hysgrifennu gan Mici Plwm.[1]

Mae Cwmni Sain wedi rhyddhau tri fideo o'r Anturiaethau, ond nid ydynt bellach ar gael ar ei wefan.

Yn 2004, rhyddhawyd y DVD gan Sain[2] ac yn 2016 rhyddhawyd DVD o gynnwys rhai o'r fideos blaenorol.[3] Roedd y DVD hwn yn cyd-fynd gyda thaith y sioe 'Raslas Bach a Mawr'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. wikireadia.org[dolen marw]
  2. "Y DVD ar wefan Sain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2011-07-27.
  3. "Yr ail DVD ar wefan Sain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-26. Cyrchwyd 2017-06-13.