Neidio i'r cynnwys

Antur Aelhaearn

Oddi ar Wicipedia
Antur Aelhaearn
Enghraifft o:menter gydweithredol, sefydliad Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/Sefydlu1974 Edit this on Wikidata
SylfaenyddCarl Clowes Edit this on Wikidata
PencadlysLlanaelhaearn Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Cwmni cydweithredol, neu 'fenter' yw Antur Aelhaearn (neu Cwmni Bro Antur Aelhaearn (1974)) a sefydlwyd yn 1973 gan y meddyg Carl Clowes ac Emrys Williams. Ffurfiwyd y cwmni yn dilyn brwydr hir gan y pentrefwyr i gadw'r ysgol gynradd leol yn agored. Ymhlith y problemau a wynebai'r pentref roedd derbyniad teledu, gormod o dai haf yn yr ardal a lleihad yn nifer poblogaeth pentref Llanaelhaearn. Ffurfiwyd Cymdeithas y Pentrefwyr cyn hynny, er mwyn wynebu'r problemau hyn, ond ni chawsant lawer o lwyddiant.

Erbyn 2024 roedd gan y fenter 'Senedd', deuddeg o aelodau, sef y corff sy'n rheoli’r Antur. Y Senedd sy’n gyfrifol am redeg yr Antur o o ddydd i ddydd, fel y mae bwrdd o gyfarwyddwyr yn rhedeg cwmni. Dewisir y Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinl Blynyddol.

Ymhlith yr ymgyrchoedd eraill mae'r fenter wedi cymryd y mae: tai fforddiadwy a biliau ynni isel er mwyn denu nifer o deuloedd ifanc i’r pentref. Ceisiwyd hefyd sicrhau cysylltiad rhyngrwyd band-eang cyflym. Codwyd adeilad a wasanaethai fel ffatri yn gynnar yn eu hanes, a chanolfan i gynnal gweithgareddauee gweithdy gwniadwaith a gwau a gyflogai nifer o bobl. Roeddent yn cynhyrchu dillad gwlân o safon uchel, yn cynnwys patrymau Celtaidd.

Yn 2023 roedd yr Antur yn ceisio prynu Becws Glanrhyd, sef becws ym mhentref Llanaelhaearn, a oedd yn cyflogi chwech o bobl.[1] Gobaith y fenter oedd ddefnyddio ynni solar i leihau costau.

Ym 1921 roedd poblogaeth y pentref yn 1,543; erbyn 1971 roedd yn 1,059.[2] Ym 1970 ymwelodd y Dr Carl Clowes â Beanntrai yng ngorllewin Corc yn Iwerddon, gan dreulio diwrnod ar ynys Òilean Cleire yn arsylwi ar weithgareddau cydweithredol. Dychwelodd am wythnos, gyda'i gyfaill Emrys Williams, cyn Gŵyl y Pasg 1973.

Y Dr Carl Clowes

Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn yr hen Neuadd Goffa, Llanaelhaearn, penodwyd wyth o bobl ar bwyllgor llywio'r gymdeithas newydd.

Amcanion y gymdeithas oedd:

  1. I sicrhau a hyrwyddo bodolaeth Llanaelhaearn a’i gyffiniau fel cymuned, ac yn arbennig i atal a gwrthdroi y duedd tuag at ddiboblogi.
  2. I ddarparu cyflogaeth yn yr ardal, ac i’r diben hwn, i sefydlu neu ddenu unrhyw ddiwydiant, masnach neu fusnesion a oedd yn gydnaws â chymeriad yr ardal.
  3. I ddarparu tai, cyfleusterau neu wasanaethau, pan fyddai eu hangen, a fyddai o fudd i’r gymdeithas.

Pan fyddai angen hwyluso’r ffordd i gyflawni’r uchod, i ddarparu unrhyw wasanaeth, masnach neu fusnes priodol.[3]

Roedd gan y gymdeithas wyth-deg o aelodau erbyn diwedd Chwefror 1974.

Gwaith y fenter

[golygu | golygu cod]

Mae'r fenter yn berchen ar eiddo gan gynnwys y Babell, y Ganolfan ac adeilad efo swyddfa, lle i wneud gwaith pren a maes parcio wedi'u rhannu a’r feddygfa. Denodd y fenter nawdd ariannol, a gwelir ffrwyth eu llafur yno heddiw (2024): maes chwarae, y Babell, y Ganolfan a Gardd gymunedol. Dywed y fenter eu bod yn ceisio darparu ar gyfer anghenion bobl ifanc, sy'n rhan ganolog o'u gwaith.

Derbyniwyd grant o £174,000 gan Coetiroedd Cymunedol Llywodraeth Cymru i sefydlu Coedlan Cymunedol Llanaelhaearn ar ddwy acer o dir amaethyddol ger adeilad grŵp cymunedol Antur Aelhaearn. Dros gyfnod o ddwy flynedd, plannwyd 1,000 o goed brodorol a 200 o goed perllan e.e. y dderwen, criafolen, helyg, coed cnau, afal a ffrwythau eraill Cymreig. Enwyd y goedlan ar ôl sefydlydd y fenter: Coedlan Carl.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. www.bbc.com; adalwyd 3 Medi 2024.
  2. llanaelhaearn.com; adalwyd 3 Medi 2024.
  3. llanaelhaearn.com; adalwyd 3 Medi 2024.