Antonio Rosmini

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Antonio Rosmini-Serbati)
Antonio Rosmini
Ganwyd24 Mawrth 1797 Edit this on Wikidata
Rovereto Edit this on Wikidata
Bu farw1 Gorffennaf 1855 Edit this on Wikidata
Stresa Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, offeiriad, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl1 Gorffennaf Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.rosmini.it/Objects/Home1.asp Edit this on Wikidata

Athronydd ac offeiriad Eidalaidd oedd Antonio Rosmini-Serbati (24 Mawrth 17971 Gorffennaf 1855) sydd yn nodedig am sefydlu'r Institutum Charitatis, urdd Gatholig elusennol ac addysgol a elwir hefyd y Rosminiaid.

Ganed Antonio Rosmini-Serbati ar 24 Mawrth 1797 i deulu bonheddig yn Rovereto, Iarllaeth Tyrol, yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Padova cyn iddo gael ei ordeinio ym 1821.[1]

Sefydlwyd yr Institutum Charitatis gan Rosmini yn Domodossola, Piemonte, ym 1828. Dylanwadwyd arno gan Maddalena di Canossa, a sefydlodd y Canosiaid yn Verona ym 1808, a threfnodd Rosmini ei urdd ar batrwm y Iesuwyr. Derbyniodd yr Institutum Charitatis sêl bendith y Pab Grigor XVI ym 1839.[1]

Ysgrifennodd Rosmini o blaid cenedlaetholdeb Eidalaidd yng nghyfnod y Risorgimento a chyfrannodd at adfywiad athroniaeth yn yr Eidal yn y 19g, er enghraifft yn ei dair chyfrol Nuovo saggio sull’origine delle idee (1830). Codai helynt o ganlyniad i'w ddadleuon diwinyddol, a oedd yn ceisio cymodi diwinyddiaeth Gatholig â syniadaeth wleidyddol a chymdeithasol fodern. Yn ei ysgrifau gwleidyddol, rhoddai ei gefnogaeth i genedlaetholdeb ond bu'n lladd ar elfennau gwrthglerigol a gwrth-Gatholig y mudiad hwnnw.

Ym 1848, daeth Rosmini yn gyfeillgar â'r Pab Pïws IX, ac yn sgil y chwyldro yn Rhufain aeth yn alltud gyda'r pab i Gaeta yn Nhachwedd 1848. Er gwaethaf ei gefnogaeth i'r pab, cafodd dau o weithiau Rosmini, a oedd yn dadlau o blaid diwygiadau eglwysig, eu gwahardd gan Gynulliad y Chwilys. Bu farw Rosmini ar 1 Gorffennaf 1855 yn Stresa, Teyrnas Piemonte a Sardinia, yn 58 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Antonio Rosmini-Serbati. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Mehefin 2020.