Antinous (cytser)
| Enghraifft o: | cyn-gytser, seroliaeth |
|---|---|
| Dyddiad darganfod | 132 |
| Olynydd | Aquila |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05dh58 |
Cytser anarferedig yn awyr y nos yw Antinous. Ni chyfeirir ato mwyach gan seryddwyr.
Cymeriad hanesyddol oedd Antinous (c.111–130 OC), llanc hardd roedd yr ymerawdwr Rhufeinig Hadrian yn ei garu. Wedi i Antinous gael ei foddi yn Afon Nîl yn 130 OC, fe'i cyhoeddodd yn dduw gan Hadrian a sefydlodd gwlt wedi'i gysegru i'w addoli. Lledaenodd y cwlt ledled yr Ymerodraeth. Cysegrwyd clwstwr o sêr i Antinous; rhestrwyd hyn fel rhan o Aquila gan y seryddwr Ptolemi yn ei Almagest tua 20 mlynedd ar ôl marwolaeth y llanc.
Darluniwyd Antinous fel cytser yn ei rinwedd ei hun yn 1536 ar glôb gan Caspar Vopel. Derbyniwyd y grŵp hwn am ganrifoedd gan seryddwyr, ond aeth allan o arfer yn y 19g, wedi ei uno â'r cytser Aquila. Felly nid yw Antinous yn un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Antinous", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 26 Mawrth 2025