Antigone (drama Soffocles)
| Antigone | |
|---|---|
Antigone o flaen corff marw Polynices gan Nikiforos Lytras1865 | |
| Awdur | Soffocles |
| Perfformiad cyntaf | c. 441 CC |
| Lleoliad perfformiad cyntaf | Athen |
Trasiedi 'Roegaidd gan Soffocles sy'n dyddio o naill ai 442 neu 440 CC yw Antigone a gafodd ei pherfformio gyntaf yng Ngŵyl Dionysos yr un flwyddyn. Credir mai dyma'r ail ddrama hynaf sydd wedi goroesi gan Soffocles, wedi'i ragflaenu gan Ajax, a ysgrifennwyd tua'r un cyfnod. Mae'r ddrama'n rhan o drioled o drasiedïau a elwir yn tair drama Thebaidd, yn dilyn Oidipos Frenin [Oedipus Rex] ac Oidipos yn Colonos. Antigone oedd y ddrama gyntaf o'r tair iddo ei chyfansoddi, er bod y digwydd a'r cyd-destun, ar ôl y ddwy ddrama arall. [1]
Ar ôl hunan-alltudiaeth Oidipos, aeth ei feibion Eteocles a Poluneices i ryfel cartref dros orsedd Thebai, a arweiniodd at farwolaeth y ddau frawd wrth ymladd yn erbyn ei gilydd. Gorchmynnodd brawd-yng-nghyfraith Oidipos a rheolwr newydd Thebai, Creon, i anrhydeddu Eteocles yn gyhoeddus a chywilyddio'r bradwr Poluneices. Mae'r ddrama'n dilyn ymdrechion eu chwaer Antigone i gladdu corff Poluneices, gan fynd yn groes i benderfyniad ei hewythr Creon a gosod ei pherthynas â'i brawd uwchlaw cyfreithiau dynol.
Troswyd y ddrama i'r Gymraeg gan W. J. Gruffydd a'i chyhoeddi ym 1950. Bu'r ddrama yn rhan o faes llafur CBAC ers rhai blynyddoedd.
Crynodeb
[golygu | golygu cod]Cyn dechrau'r ddrama, bu farw'r brodyr Eteocles a Poluneices, yn rhyfel cartref Thebai, drwy ymladd â'i gilydd am yr orsedd. Mae Creon, rheolwr newydd Thebai a brawd y cyn-Frenhines Iocasta, wedi penderfynu y bydd Eteocles yn cael ei anrhydeddu trwy ei gladdu yn barchus, tra bydd Poluneices yn cael ei gywilyddio'n gyhoeddus, heb fedd. Ni fydd corff y brawd gwrthryfelgar yn cael ei sancteiddio gan ddefodau sanctaidd ac fe'i gedwir ar faes y gad, yn ysglyfaeth i anifeiliaid gwyllt sef y gosb fwyaf llym yn y cyfnod. Antigone ac Ismene yw chwiorydd y ddau frawd marw.
| Laïos | Iocasta | Creon | Eurydice | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| Oidipos | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| Eteocles | Poluneices | Isméne | Antigone | Haemon | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Antigone, merch hynaf Oidipos, brenin alltud Thebai a'r frenhines Iocasta. Mae Antigone yn chwaer i Poluneices, Eteocles ac Isméne. O'i chymharu â'i chwaer ufudd, mae Antigone yn cael ei phortreadu fel arwres sy'n cydnabod ei dyletswydd deuluol. Mae ei deialogau gydag Ismene yn datgelu ei bod mor ystyfnig â'i hewythr. [2] Mae hi'n herio gorchymyn Creon er gwaethaf y canlyniadau y gallai eu hwynebu, er mwyn anrhydeddu ei brawd ymadawedig Poluneices.
- Isméne (ei chwaer) - mae'n gweithredu'n wrthgyferbyniol i Antigone, gan ddilyn y gorchymyn brenhinol. [2] Mae hi'n fwy cyfreithlon ac ufudd i awdurdod na'i chwaer ac mae'n petruso cyn claddu Poluneices oherwydd ei bod hi'n ofni Creon.
- Creon yw Brenin presennol Thebai, sy'n ystyried y gyfraith yn warantwr hapusrwydd personol. Gellir ei ystyried hefyd yn arwr trasig, gan golli popeth am gynnal yr hyn y mae'n credu sy'n iawn. Hyd yn oed pan gaiff ei orfodi i ddiwygio ei orchymyn i blesio'r duwiau, mae'n gofalu am y Poluneices marw'n gyntaf, cyn rhyddhau Antigone. [2]
- Eurydice o Thebai yw Brenhines Thebai a gwraig Creon. Mae hi'n ymddangos tua'r diwedd a dim ond i glywed cadarnhad o farwolaeth ei mab Haemon. Yn ei galar, mae hi'n marw trwy hunanladdiad, gan felltithio Creon, y mae hi'n ei feio am farwolaeth ei mab.
- Haemon mab Creon ac Eurydice, wedi dyweddïo ag Antigone. Wedi profi i fod yn fwy rhesymol na Creon, mae'n ceisio rhesymu gyda'i dad er mwyn Antigone. Fodd bynnag, pan wrthoda Creon wrando, mae Haemon yn gadael yn ddig ac yn gweiddi na fydd byth yn ei weld eto. Mae'n marw trwy hunanladdiad ar ôl canfod Antigone yn farw.
- Koryphaios cynorthwyydd y Brenin (Creon) ac arweinydd y Côr. Yn aml caiff ei ddehongli fel cynghorydd agos i'r Brenin, ac felly'n ffrind agos i'r teulu. Mae'r rôl hon yn cael ei hamlygu yn y diwedd pan fydd Creon yn dewis gwrando ar gyngor Koryphaios.
- Teiresias yw'r proffwyd dall y mae ei ragfynegiad yn arwain at gladdu Poluneices. Wedi'i bortreadu fel doethur a rhesymegwr, mae Teiresias yn ceisio rhybuddio Creon am ei ffolineb ac yn dweud wrtho fod y duwiau'n flin. Mae'n llwyddo i argyhoeddi Creon, ond mae'n rhy hwyr i achub yr Antigone afreolus.
- Y Côr, grŵp o ddynion oedrannus o Thebai, sy'n ufudd i'r brenin ar y dechrau. [3] Eu pwrpas yw cynnig sylwadau ar weithredoedd yn y ddrama ac ychwanegu at y cyffro a'r emosiynau, yn ogystal â chysylltu'r stori â mythau. Wrth i'r ddrama fynd yn ei blaen maent yn cynghori Creon i fod yn fwy cymedrol. Mae eu deisyfiad yn perswadio Creon i arbed Isméne. Maent hefyd yn cynghori Creon i ddilyn cyngor Teiresias.
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama gan Gymdeithas y Ddrama Gymraeg, Y Coleg Normal, Bangor ym 1990. Cyfarwyddwr : Rhian Mair; ymghynghorydd : Morien Phillips; cast:[4]
- Antigone - Caren Brown
- Isméne - Gwenfair Vaughan Jones / Nia Elin Jones
- Creon - Iestyn Griffiths
- Eurydice o Thebai - Lisa Elfyn
- Haemon - Gareth Lloyd
- Koryphaios - Catrin Alwen Jones
- Teiresias - Derfel Williams
- Gwyliwr - Delyth Francis
- Negesydd - Gwenllian Jones
- Y Côr - Sara Jones, Elizabeth James, Irfon Williams, Eleri Fôn, Gaynor Davies, Ceri Charles Morris, Ruth Parry Jones, Deiniol Williams, Lisa Elfyn a Gwawr Owen.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Sophocles (1986). The Three Theban Plays: Antigone, Oedipus the King, Oedipus at Colonus. Translated by Robert Fagles. New York: Penguin. t. 35.
- 1 2 3 McDonald, Marianne (2002), Sophocles' Antigone, Nick Hern Books, http://olli.ucsd.edu/documents/antigone.pdf, adalwyd 2014-12-14
- ↑ Bates, Alfred, gol. (1906). The Drama: Its History, Literature and Influence on Civilization, Vol. 1. London: Historical Publishing Company. tt. 112–123.
- ↑ Y Coleg Normal (1990). Rhaglen Antigone.