Anthroposen

Oddi ar Wicipedia
Anthroposen
Enghraifft o'r canlynolepoc, cyfres Edit this on Wikidata
Rhan oCwaternaidd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1950s Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganHolosen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://anthropocene.info/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yr Anthroposen yw'r enw awgrymedig a ddynodwyd i'r epoc daearegol yn dyddio o ddechreuad effeithiau sylweddol y ddynoliaeth ar ddaeareg ac ecosystemau'r blaned gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, newid hinsawdd anthropogenig.

Bathwyd yr enw gan y biolegydd Eugene Stoermer yn niwedd y 1980au, a fe'i poblogeiddiwyd gan y meteorolegydd a chemegydd Paul J. Crutzen yn 2000. Yn 2008, y daearegwr Jan Zalasiewicz oedd y cyntaf i gynnig yn ffurfiol i gydnabod yr anthroposen yn epoc daearegol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Anthropocene Epoch. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Mehefin 2023.
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaeareg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato