Neidio i'r cynnwys

Ansarallah

Oddi ar Wicipedia
Ansarallah
Enghraifft o:mudiad gwleidyddol, sefydliad gwleidyddol, sefydliad arfog Edit this on Wikidata
Cyllidebgwrth-imperialaeth, gwrth-Seioniaeth, Khomeinism, Pan-Islamiaeth, Cenedlaetholdeb Arabaidd, Pan-Arabiaeth Edit this on Wikidata
CrefyddIslamist shi'ism edit this on wikidata
Dechrau/Sefydlu1994 Edit this on Wikidata
SylfaenyddHussein Badreddin al-Houthi Edit this on Wikidata
PencadlysSaada, Sana'a Edit this on Wikidata
Enw brodorolالحوثيون Edit this on Wikidata
GwladwriaethIemen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://ansarollah.com.ye/, https://ansarollah.com.ye/en/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/047vsxx edit this on wikidata
QuoraHouthis edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mudiad Islamaidd ffwndamentalaidd yn Iemen yw'r Ansarallah (Saesnigiad difriol: Hwthïaid), yn swyddogol Ansarallah neu Ansar Alah (Cymreigiad: Ansariaid Alah), un o brif ryfelwyr y rhyfel cartref ers 2014. Shïa Zaydaidd diwygiadol ydyw o ran ideoleg, dan arweiniad teulu Hussein al-Houthi (1959–2004; o ble y daeth yr enw), a sefydlodd y mudiad ym 1994.[1] Ystyrir yr enw Hwthiaid yn enw ychydig yn ddirmygus, gan yr Arabiaid.

Yn sgil erledigaeth, trodd yn fudiad milwriaethus a lansiodd wrthryfel yn erbyn llywodraeth Iemen yn 2004. Cipiodd yr Ansarallah y brifddinas Sana'a ym Medi 2014, ac ers hynny maent yn rheoli rhan sylweddol o'r wlad, yn bennaf yr ardaloedd poblog yn y gogledd-orllewin. Bu clymblaid Sawdi Arabia yn gorfodi blocâd morwrol ac awyrol ar Iemen ers 2015 a gyfyngodd yn ddifrifol ar fewnforio bwyd, tanwydd a meddyginiaeth i sifiliaidy wlad. Ar 10 Medi 2026 cipiodd Ansarallah sawl ynys allweddol (o ran rheoli'r culfor) a meddiannwyd porthladd strategol Mokha ger Culfor Bab al-Mandeb – eu hennill tiriogaethol mwyaf ers cadoediad 2022 – gan ddwysáu'r ymladd yn erbyn lluoedd y llywodraeth (PLC).

Cefnogir yr Ansarallah gan Gorfflu'r Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd, a chânt eu hystyried yn rhan o "Echel y Gwrthsafiad", cynghrair anffurfiol dan arweiniad Iran.[2] Mae ganddyn daflegrau sy'n cyrraedd nid yn unig pob rhan o Sawdi Arabia ond hefyd Israel, fel y gwelwyd yn Rhyfel Israel a'r Unol Daleithiau yn erbyn Iran yn 2026.

Manteisiodd yr Ansarallah ar yr ansefydlogrwydd yn sgil Chwyldro Iemen (2011–12) a chwymp yr Arlywydd Ali Abdullah Saleh, a fu'n rheoli'r wlad ers uno'r ddwy Iemen ym 1990. Gwaethygwyd y sefyllfa gan wrthryfelwyr eraill, gan gynnwys al-Qaeda, ac ym Medi 2014 cipiodd yr Ansarallah Sana'a wedi brwydr a barodd ond pum niwrnod, gan gychwyn ymgyrch dros y pedwar mis olynol i sicrhau rheolaeth dros sefydliadau llywodraethol a milwrol y wlad, gyda chefnogaeth aelodau o'r lluoedd diogelwch a oedd o hyd yn ffyddlon i Abdullah Saleh. Er iddynt sefydlu pwyllgor chwyldroadol dros dro, ac yna gyngor llywodraethol yn 2016, ni chydnabyddir y llywodraethyr Ansarallah-iaid yn rhyngwladol. Ers 2015, mae Sawdi Arabia wedi arwain ymyriad milwrol yn Iemen i geisio adfer y cyn-lywodraeth, gyda chefnogaeth sawl gwlad arall yn y Dwyrain Canol, Affrica, a'r Gorllewin. Er gwaethaf hynny, erbyn 2020 roedd yn amlwg mai'r Ansarallah sydd ar y brig, ac yn 2022 cytunwyd ar gadoediad â Sawdi Arabia.[3] Yn 2023, mewn ymateb i Ryfel Gaza, lansiodd yr Ansarallah daflegrau a dronau yn erbyn Israel ac ymosodant ar longau masnach yn y Môr Coch. Yn 2026, ymunodd yr Ansarallah â Rhyfel Iran, drwy ymosod eto ar Israel a bygwth llongau yn y Môr Coch.

Cyhuddwyd yr Ansarallah a Sawdi Arabia o dorri hawliau dynol, gan gynnwys targedu sifiliaid a defnyddio milwyr dan oed, a dynodir y mudiad yn grŵp terfysgol gan rai gwledydd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ (Saesneg) Manuel Almeida, "Profile: Who are Yemen’s Houthis?", Al Arabiya (20 Mai 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 25 Medi 2021.
  2. ↑ (Saesneg) Ismaeel Naar, Ephrat Livni, Abdi Latif Dahir, Eve Sampson, a Jonathan Wolfe, "Who Are the Houthis?", The New York Times (28 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 29 Mawrth 2026.
  3. ↑ (Saesneg) "Saudi-led coalition announces Yemen ceasefire from Wednesday", AL-Monitor (29 Mawrth 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Ebrill 2025.