Neidio i'r cynnwys

Annibyniaeth yr Ynys Las

Oddi ar Wicipedia
Annibyniaeth yr Ynys Las
Enghraifft o:annibyniaeth Edit this on Wikidata
Enw brodorolKalaallisuut kiffaanngissusiat Edit this on Wikidata
GwladwriaethYr Ynys Las Edit this on Wikidata

Annibyniaeth yr Ynys Las yw'r egwyddor y dylai'r wlad honno fod yn annibynnol o Ddenmarc, neu y dylai gael hunanlywodraeth lwyr.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Mae gan yr Ynys Las statud ymreolaeth ers 1978. Mae'r ddeddf hon yn rhyw fath o gyfansoddiad ysgrifenedig i'r Ynys Las ond mae cyfansoddiad Denmarc yn parhau i fod yn berthnasol i arian cyfred y wlad, y frenhiniaeth, a hawliau rhyddid.[1]

Arolygon barn

[golygu | golygu cod]

Dangosodd arolwg barn yn 2016 fod mwyafrif o 64% yn credu ei bod yn eithaf pwysig neu'n bwysig iawn fod yr Ynys Las yn dod yn annibynnol rhyw ddydd. Atebodd 24% nad yw'n bwysig iawn ac atebodd 12% eu bod yn ansicr am annibyniaeth.[2]

Dangosodd arolwg barn yn 2019 fod 67.8% o bobl yr Ynys Las yn cefnogi annibyniaeth oddi wrth Ddenmarc rywbryd yn ystod yr ugain mlynedd nesaf.[3]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Loukacheva, Natalia (2007). The Arctic Promise: Legal and Political Autonomy of Greenland and Nunavut (yn Saesneg). University of Toronto Press. t. 48. ISBN 978-0-8020-9295-3.
  2. Turnowsky, Henrik Skydsbjerg / Walter (2016-12-01). "Massivt flertal for selvstændighed". www.sermitsiaq.ag (yn Daneg). Cyrchwyd 2025-01-27.
  3. "Martin Breum: Her er den egentlige forskel på dansk og grønlandsk syn på fremtiden : Arktis - Altinget.dk". www.altinget.dk. 2019-01-09. Cyrchwyd 2025-01-27.