Anni Llŷn

Oddi ar Wicipedia
Anni Llŷn
Ganwyd1 Ebrill 1988 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd teledu, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Cyflwynwraig ac awdures o Gymraes yw Anni Llŷn (ganwyd 1 Ebrill 1988). Hi oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2015 a 2017. [1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Mae'n hannu o Sarn Mellteyrn ger Pwllheli, ac aeth i Ysgol Gynradd Pont y Gof ac Ysgol Uwchradd Botwnnog. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd lle graddiodd mewn Cymraeg, cyn dilyn cwrs ôl-radd yn arbenigo mewn ysgrifennu creadigol.

Enillodd wobr Prif Lenor yn Eisteddfod yr Urdd, Eryri 2012 gyda gwaith ar y thema Egin. Mae wedi ysgrifennu nofelau antur i blant yn cynnwys Asiant A, a Nanw a Caradog Crafog Llwyd Lloerig sy'n rhan o Gyfres Lolipop o lyfrau.

Treuliodd bum mlynedd yn cyflwyno rhaglenni plant Stwnsh ar S4C. Mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni teledu o Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod a'r cyflwynydd Tudur Phillips ac mae ganddynt un plentyn.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]