Anneliese Heard

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Anneliese Heard
Ganwyd 3 Tachwedd 1981 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
  • Bassaleg School Edit this on Wikidata
Galwedigaeth seiclwr cystadleuol, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd, triathlete Edit this on Wikidata
Taldra 164 Centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau 57 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Seiclwraig rasio ac athletwraig triathlon Cymreig ydy Anneliese Heard (ganwyd 3 Tachwedd 1981).

Magwyd Heard ym Massaleg ger Casnewydd. Cystadlodd yn ei ras triathlon cyntaf pan oedd yn 8 oed, gan ennill ras Cannock Chase yn y categori odan 9 oed. Daeth yn Bencampwriag Ieuenctid Pydain pan oedd yn 12 oed. Roedd hi'n Bencampwraig Iau'r Byd ym 1999 a 2000. Cystadlodd yng Ngemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf ym Manceinion yn 2002, lle gorffenodd yn y nafed safle .[1] Roedd hefyd yn bresennol yn lansiad set o stampiau gan y Post Brenhinol, a oedd yn darlunio nofio, seiclo a thrac, cyn y Gemau.[2] Amharwyd ei pherfformiadau yn 2004 a 2005 gan anafiad i'w chefn.[3]

Roedd Anneliese yn aelod o dîm triathlon Cymru unwaith eto yng Nghemau'r Gymanwlad 2006, yn Melbourne, Awstralia, gorffennodd yn 11fed safle y tro hwn. Trodd ei chefn atr triathlon i ganolbwyntio ar seiclo yn 2007, gan reidio ar yr un tîm a Nicole Cooke, tîm Univega Raleigh Lifeforce Pro Cycling Team yn y Swistir.[4]

Mae Heard yn un o nifer o athletwyr sy'n gweithio gyda cynllun "Super Schools" ier mwyn ysbrydoli plant i gymryd rhan mewn chwaraeon.[1] Mae hi'n hyfforddwraig cymwys, a caiff ei chyflogi gan Welsh Cycling fel cyd-lynydd hyfforwyr ar y hyn o bryd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1  Anneliese Heard (Triathlon). Super Schools.
  2.  Anneliese gives her stamp of approval. South Wales Argus (16 Gorffennaf 2002).
  3.  Biography : HEARD Anneliese. Melbourne 2006.
  4.  HEARD Anneliese. Cycling Quotient.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]