Anne Sexton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Anne Sexton
AnneSextonGrave.jpg
Ganwyd 9 Tachwedd 1928 Edit this on Wikidata
Newton Edit this on Wikidata
Bu farw 4 Hydref 1974 Edit this on Wikidata (45 oed)
Achos: mygu Edit this on Wikidata
Weston Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Boston Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Bardd, Ysgrifennwr, awdur plant Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Coleg Oberlin
  • Prifysgol Boston
  • Prifysgol Colgate Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Live or Die Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymdeithas Goffa John Simon Guggenheim, Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth Edit this on Wikidata

Awdures Americanaidd oedd Anne Sexton (9 Tachwedd 1928 - 4 Hydref 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, ac awdur plant. Mae ei cherddi'n hynod bersonol a chyffrous gan fanylu ar ei brwydr hir gydag iselder, tueddiadau hunanladdol a manylion personol eraill am ei bywyd preifat, gan gynnwys perthynas â'i gŵr a'i phlant. Datgelodd yn ddiweddarach ei bod wedi dioddef ymosodiad corfforol a rhywiol. Enillodd Wobr Pulitzer am farddoniaeth yn 1967 am ei llyfr Live or Die. [1][2][3]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Anne Gray Harvey yn Newton, Massachusetts, UDA ar 9 Tachwedd 1928 a bu farw yn Weston, Massachusetts o fygu. Ei mam oedd Mary Gray (Staples) Harvey (1901–1959) a'i thad: Ralph Churchill Harvey (1900–1959).

Roedd ganddi ddwy chwaer hŷn, Jane Elizabeth (Harvey) Jealous (1923-1983) a Blanche Dingley (Harvey) Taylor (1925-2011). Treuliodd y rhan fwyaf o'i phlentyndod yn Boston. Ym 1945, cofrestrodd yn ysgol breswyl Rogers Hall, Lowell, Massachusetts, gan dreulio blwyddyn yn Ysgol Garland yn ddiweddarach. Am gyfnod, modelodd ar gyfer "Asiantaeth Boston's Hart". Ar 16 Awst 1948, priododd Alfred Muller Sexton II ac arhosodd y ddau gyda'i gilydd tan 1973. Ganwyd ei phlentyn cyntaf, Linda Gray Sexton, ym 1953 a ganwyd ei hail blentyn, Joyce Ladd Sexton, ddwy flynedd yn ddiweddarach.[4][5]

Y bardd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dioddefodd Sexton o anhwylder deubegwn difrifol am lawer o'i bywyd; cafwyd y cyfnod manig cyntaf ym 1954. Yn dilyn ei hail ysgytwad, yn 1955, cyfarfu â Dr. Martin Orne, a ddaeth yn therapydd hirdymor iddi yn Ysbyty Glenside. Ef a'i hanogodd i ysgrifennu barddoniaeth.[5][6]

Arweiniwyd y gweithdy barddoniaeth cyntaf a fynychwyd ganddi gan John Holmes. Cafodd ei chanmol yn gynnar am ei barddoniaeth; derbyniodd feirniadaeth canmoladwy iawn gan The New Yorker, Harper's Magazine a'r Saturday Review. Astudiodd Sexton wedyn gyda Robert Lowell ym Mhrifysgol Boston, ochr yn ochr â beirdd mwya'r cyfnod - Sylvia Plath a George Starbuck.

O fewn 12 mlynedd o ysgrifennu ei soned gyntaf, roedd ymhlith y beirdd mwyaf anrhydeddus yn yr Unol Daleithiau i enillydd Gwobr Pulitzer, a daeth yn gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth a'r aelod benywaidd cyntaf o siapter Harvard o Phi Beta Kappa.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Gymdeithas Phi Beta Kappa am rai blynyddoedd. [7]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymdeithas Goffa John Simon Guggenheim (1969), Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth (1967)[8][9]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12175004n; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/hftwzc514ndck1p; LIBRIS; dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018; dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2008.
  2. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  3. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  4. Nelson, Cary (2008-08-27). "Anne Sexton Chronology". Modern American Poetry website. University of Illinois at Urbana–Champaign. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 February 2009. Cyrchwyd 2009-02-20.
  5. 5.0 5.1 Morris, Tim (1999-04-23). "A Brief Biography of the Life of Anne Sexton". University of Texas at Arlington. Cyrchwyd 2009-02-20.
  6. Carroll, James (Fall 1992). "Review: ‘Anne Sexton: A Biography’". Ploughshares 18 (58). Archifwyd o y gwreiddiol ar 4 Tachwedd 2007. https://web.archive.org/web/20071104042713/http://www.pshares.org/issues/article.cfm?prmArticleid=3360. Adalwyd 2009-01-18.
  7. Anrhydeddau: http://www.gf.org/fellows/all-fellows/anne-sexton/; dyddiad cyrchiad: 21 Ebrill 2015. http://www.pulitzer.org/awards/1967; dyddiad cyrchiad: 21 Ebrill 2015.
  8. http://www.gf.org/fellows/all-fellows/anne-sexton/; dyddiad cyrchiad: 21 Ebrill 2015.
  9. http://www.pulitzer.org/awards/1967; dyddiad cyrchiad: 21 Ebrill 2015.