Neidio i'r cynnwys

Anne Naysmith

Oddi ar Wicipedia
Anne Naysmith
GanwydAnne Smith Edit this on Wikidata
13 Ionawr 1937 Edit this on Wikidata
Southend-on-Sea Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 2015 Edit this on Wikidata
o struck by vehicle Edit this on Wikidata
Chiswick Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpianydd Edit this on Wikidata

Cyn-bianydd clasurol o Loegr a ddaeth yn nodedig am gysgu ar y stryd yn Chiswick, Gorllewin Llundain, [1] [2] oedd Anne Margaret Naysmith (née Smith; 13 Ionawr 1937 – 10 Chwefror 2015). Mae rhai yn honni bod ei stori hithau hefyd wedi ysbrydoli'r dramodydd Alan Bennett i gyfansoddi'r stori, y ddrama a'r ffilm The Lady in the Van, gyda chyffelybiaethau tebyg i stori wir Margaret Mary Fairchild [Sheppard] tu allan i gartref y dramodydd, yng Ngogledd Llundain.[3]

Ganwyd Anne yn Southend-on-Sea, Essex, ym 1937. Symudodd ei theulu i Hounslow, Gorllewin Llundain, pan oedd hi'n wyth oed. "Smith" oedd ei chyfenw, ond ychwanegwyd y 'Nay' yn ddiweddarach.

Astudiodd gerddoriaeth yn Yr Academi Gerdd Frenhinol, a rhoddodd ddatganiad yn Neuadd Wigmore ym 1967. Wynebodd anawsterau personol ddiwedd y 1960au a chafodd ei throi allan o'i thŷ yng Ngerddi Prebend, Chiswick.[1] Yn dilyn hynny, cysgodd yn ei char, Ford Consul, am 26 mlynedd tan 2002 pan gafodd ei lusgo ymaith gan y Cyngor, yn dilyn ymgyrchu gan gymdogion i'w gwared. [4] [5] [6] Wedi hynny, bu'n byw mewn lloches yr oedd hi wedi'i greu ger gorsaf Danddaearol Stamford Brook.[7]

Bu farw Anne am 01:00 ar 10 Chwefror 2015 ar ôl cael ei tharo gan lori ar Ffordd Fawr Chiswick. [8] Claddwyd hi ym Mynwent Newydd Chiswick ar 7 Mawrth 2015.[8]

Pan lwyddodd y Cyngor i'w symud hi yn 2002, bu'r actores Siân Wheldon yn un o'r trigolion lleol a geisiodd rwystro'r Cyngor rhag gwneud hynny, er mwyn gwarchod "hawliau dynol" Anne Naysmith.[9]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Access Restricted". www.telegraph.co.uk. Cyrchwyd 2025-10-30.
  2. ↑ Steven Morris (11 Chwefror 2015). "From concert pianist to lady in the car: the extraordinary life of Anne Naysmith". The Guardian. Cyrchwyd 12 Chwefror 2015.
  3. ↑ "Chiswick Bids Farewell To Anne Naysmith". Chiswickw4.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mawrth 2015.
  4. ↑ Emily Cockayne (2012). Cheek by Jowl: A History of Neighbours. Random House. t. 196. ISBN 9781409027737. Cyrchwyd 13 Chwefror 2015.
  5. ↑ "Woman's car home towed away" (yn Saesneg). 7 Mawrth 2002. Cyrchwyd 19 Mai 2021.
  6. ↑ Cumber, Robert (2015-02-11). "Tributes paid to 'rag lady of Chiswick' Anne Naysmith, killed in lorry crash". My London (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-30.
  7. ↑ "Homeless concert pianist's anger over shelter's removal". BBC News. 5 Medi 2012. Cyrchwyd 13 Chwefror 2015.
  8. 1 2 Cumber, Robert (11 Chwefror 2015). "Tributes paid to 'rag lady of Chiswick' Anne Naysmith, killed in lorry crash". MyLondon (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Mai 2021.
  9. ↑ Morris, Steven (2002-03-08). "End of the road for woman who lived in a car". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-10-30.