Neidio i'r cynnwys

Anna Lapwood

Oddi ar Wicipedia
Anna Lapwood
Lapwood yn 2024
Ganwyd28 Gorffennaf 1995 Edit this on Wikidata
High Wycombe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethorganydd, arweinydd, woman conductor, trefnydd cerdd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auMBE, Royal Philharmonic Society Award (Gamechanger) Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.annalapwood.co.uk Edit this on Wikidata

Organydd, cyfarwyddwr corawl, cyflwynydd teledu a radio o Loegr yw Anna Ruth Ella Lapwood MBE (ganwyd 28 Gorffennaf 1995). Yn 2016 penodwyd hi yn Gyfarwyddwr Cerdd i Goleg Penfro Caergrawnt, yn un o'r bobl ieuengaf erioed i gael cyfwrwyddo côr coleg yn Rhydychen neu Gaergrawnt. Sefydlodd gôr merched yno yn 2018. Gan ei bod yn artist gyswllt gyda Neuadd Frenhinol Albert, Llundain, mae ei recordiadau wedi denu cynilleudfa fawr ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Bywyd ac addysg cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Lapwood yn 1995 yn High Wycombe, Swydd Buckingham.

Astudiodd y ffidil, fiola, piano a chyfansoddi yn Yr Academi Gerdd Frenhinol Iau, ac bu'n arwain y telynau yng Ngherddorfa Plant Genedlaethol Prydain Fawr a cherddorfa'r Academi.

Mynychodd Ysgol Uwchradd Rhydychen (Oxford High School), lle roedd hi'n gallu chwarae pedwar offeryn i safon gradd 8, a dechreuodd chwarae'r Organ. Cafodd hi radd dosbarth cyntaf o Goleg Magdalen, Rhydychen. Hi oedd y fenyw gyntaf yn hanes y coleg i gael ysgoloriaeth Organ.[1]

Cyfarwyddwr Cerdd Coleg Penfro, Caergrawnt (2016−2025)

[golygu | golygu cod]
Interior_of_Pembroke_College_Chapel,_Cambridge_-_geograph.org.uk_-_2154736
Capel Coleg Penfro, Caergrawnt

Yn 2016, penodwyd Lapwood yn Gyfarwyddwr Cerdd Coleg Penfro, Caergrawnt. Ar y pryd, hi oedd y person ieuengaf erioed i gyfarwyddo côr coleg yn Rhydychen neu Gaergrawnt.[2]

Yn 2018, sefydlodd Lapwood Gôr Merched Coleg Penfro ar gyfer merched 11-18 oed o ysgolion lleol. Mae hi hefyd yn rhedeg "Profiad Organ Caergrawnt" i ferched yn flynyddol. Yn 2019, sefydlodd Lapwood gôr arall yn y coleg, i ddysgu sgiliau darllen ar yr olwg cyntaf.

Ym mis Chwefror 2025, cyhoeddodd ei bod yn gadael ei swydd yng Ngholeg Penfro er mwyn gallu canolbwyntio ar ei gwaith fel organydd cyngerdd.[3]

Organydd swyddogol Neuadd Frenhinol Albert (2025−)

[golygu | golygu cod]
Royal_Albert_Hall_Organ_4_June_2023
Organ Neuadd Frenhinol Albert, Llundain, lle mae Lapwood yn organydd swyddogol.

Ym mis Mai 2025, penodwyd hi yn organydd swyddogol Neuadd Frenhinol Albert, y person cyntaf i ddal y swydd.[4]

Perfformiadau

[golygu | golygu cod]

Fel organydd, mae Lapwood wedi perfformio yn Neuadd Frenhinol Albert, Neuadd "Festival Hall", Llundain ac Eglwys St Thomas, Efrog Newydd, ymysg llefydd eraill. Yn 2019, agorodd wobrau Bafta ar yr Organ. Mae hi'n teithio'n aml o amgylch Y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Fel arweinydd, mae Lapwood wedi cyfarwyddo Cantorion y BBC fel rhan o raglen BBC Inspire. Mae hi wedi rhedeg gweithdau corawl yng Ngwlad Tai, Perth, Shenzhen, Shanghai, Lusaka a Sambia.

Fel cantores, mae Lapwood wedi rhyddhau dau albwm fel rhan o ensemble lleisiol Gareth Malone. Fel rhan o'r ensemble, mae hi wedi perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Lapwood yn perfformio yn 2023

Cyflwyniadau teledu a radio

[golygu | golygu cod]

Lapwood oedd prif gyflwynydd Cystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC 2020. Roedd hi hefyd yn feirniad yng nghyatadleuaeth Côr Cymru yn 2022.[5]

Yn 2024, cyflwynodd gyfres o ragleni o'r enw 'A View from the Organ Loft' ar BBC radio 3, gan gynnwys rhifyn o Eglwys Gadeiriol Llandaf.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "About". Anna Lapwood (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-23.
  2. "Ms Anna Lapwood | Pembroke". www.pem.cam.ac.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-08-14. Cyrchwyd 2024-11-23.
  3. "Cambridge TikTok organist to step down from Pembroke College". BBC News. 12 Chwefror 2025. Cyrchwyd 12 Chwefror 2025.
  4. "Organist of the Royal Albert Hall". www.royalalberthall.com. Cyrchwyd 20 Mai 2025.
  5. "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2024-11-23.
  6. Admin (2024-10-18). "BBC Radio 3: A View from the Organ Loft". Anna Lapwood (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-23.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]