Anna Kamieńska

Oddi ar Wicipedia
Anna Kamieńska
Ganwyd12 Ebrill 1920 Edit this on Wikidata
Krasnystaw Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mai 1986 Edit this on Wikidata
Warsaw Edit this on Wikidata
Man preswyl13 Joteyki Street in Warsaw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, bardd, awdur plant, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
MamMaria Szypiłło Edit this on Wikidata
PriodJan Śpiewak Edit this on Wikidata
PlantPaweł Śpiewak Edit this on Wikidata
PerthnasauRomana Cękalska Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd Polonia Restituta, Croes Aur am Deilyngdod Edit this on Wikidata

Bardd, awdur, golygydd ac actifydd o Wlad Pwyl oedd Anna Kamieńska (12 Ebrill 192010 Mai 1986). Roedd hi'n ffigwr dylanwadol drwy'r cyfnod comiwnyddol yng Ngwlad Pwyl.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Cafodd Anna Kamieńska ei geni ar 12 Ebrill 1920 yn Krasnystaw, Gwlad Pwyl. Ei rhieni oedd Tadeusz Kamienski a Maria z Cękalskich. Treuliodd ei blynyddoedd cynnar yn ninas Lublin. Arhosai'n aml gyda'i thaid a'i nain yn nhref Świdnik gerllaw.

Bu farw'i thad yn gynnar, felly syrthiodd y baich o ofalu am y bedair merch ar ei mam. Cyfansoddodd Anna ei cherdd gyntaf yn 1936 pan oedd tua 14 oed, a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn "Płomyczek" o dan nawdd Joseph Czechowicz. O 1937 ymlaen astudiodd yn Athrofa Warsaw. Yn ystod y goresgyniad Natsïaid, roedd hi'n byw yn Lublin, ac yn dysgu mewn ysgolion pentref tanddaearol. Ar ôl graddio yng Ngholeg Lublin, astudiodd ieitheg glasurol - i ddechrau ym Mhrifysgol Gatholig Lublin ac yna ym Mhrifysgol Lodz.

Roedd Kamienska'n gysylltiedig â'r cylchgrawn diwylliannol, wythnosol "Wlad", lle roedd hi'n un o'i olygyddion o 1946 -1953, a'r cylchgrawn wythnosol "Diwylliant Newydd" (golygydd barddoniaeth, 1950-1963). Yng nghanol y pumdegau, dechreuodd ysgrifennu caneuon ar gyfer pobl ifanc. Priododd y bardd a chyfieithydd Jan Śpiewak ym 1948. Cafon nhw ddau fab: Jan Leon (1949-1988 - newyddiadurwr, gwleidydd, awdur ac actifydd cymdeithasol) a Pawel (a aned yn 1951, athro cymdeithaseg ym Mhrifysgol Warsaw, ac aelod o'r Sejm (cynulliad), 2005 -2007)). Gweithiodd Anna a Jan gyda'i gilydd ar gyfieithiadau o farddoniaeth Rwseg a dramau, a golygon nhw nifer o lyfrau.

Yn Rhagfyr 1967 bu farw ei gŵr. Trodd Kamieńska at ei ffydd Gristnogol, a oedd yn ddylanwad mawr ar ei gweithiau diweddarach. Bu farw yn Warsaw, 10 Mai 1986.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd bymtheg cyfrol o farddoniaeth; dwy gyfrol o "Lyfrau nodiadau" - ei gwaith mwyaf enwog tramor, sy'n gofnod o'i darlleniadau a hunan-gwestiynu; tair cyfrol o esboniadau ar y Beibl; a chyfieithiadau o'r ieithoedd Slafeg ag o Hebraeg, Lladin a Ffrangeg.

Mae ei cherddi yn cofnodi ymdrechion i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ansicrwydd mewn dull uniongyrchol, di-sentiment. Mae'i barddoniaeth yn dal i fynegi hiwmor tawel ac ymdeimlad treiddiol o ddiolchgarwch am fodolaeth ddyn ac ar gyfer llu o greaduriaid fel draenogod, adar, ac ati.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

  • Wychowanie (KiW 1949)
  • O szczęściu (Czytelnik 1952)
  • Bicie serca (Czytelnik 1954)
  • Pod chmurami (Czytelnik 1957)
  • Poezje wybrane (Czytelnik 1959)
  • W oku ptaka (PIW 1960)
  • Źródła (PIW 1962)
  • Rzeczy nietrwałe (Czytelnik 1963)
  • Odwołanie mitu (PIW 1967)
  • Biały rękopis (Czytelnik 1970)
  • Wygnanie (PIW 1970)
  • Poezje wybrane (LSW 1971)
  • Herody (LSW 1972)
  • Poezje wybrane (Czytelnik 1973)
  • Drugie szczęście Hioba (PIW 1974)
  • Milczenia (WL 1979)
  • Rękopis znaleziony we śnie • Wiersze z lat 1973-1975 (Czytelnik 1978)
  • Wiersze jednej nocy (LSW 1981)
  • Anna Kamieńska • Wybór wierszy (Czytelnik 1982)
  • Raptularz wojenny (b.w. 1982)
  • Pierwszy śnieg • Świadkowie (Correspondance des Art 1983)
  • W pół słowa • Wiersze z lat 1970-1980 (Czytelnik 1983
  • Dwie ciemności • Wybór poezji (W drodze 1984)
  • Przyjdź Królestwo (b.w. 1984)
  • Nowe imię (Epideixis 1987)
  • Milczenia i psalmy najmniejsze (WL 1988)
  • Nie tylko o Sandomierzu (Oficyna Jędrzejowska 1990)
  • Pisz o kamieniu (PAX 1995)
  • Inne miejsca (W drodze 1996)
  • Jasność w środku nocy (PIW 2001)
  • Wiersze przemilczane (Wydawnictwo KUL 2008)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

• "Astonishments: Selected Poems of Anna Kamieńska", cyfieithu gan Grażyna Drabik a David Curzon, Gwasg Paraclete, 2007. • "Modern Poetry in Translation". Erthygl ar Anna Kamieńska. Cyfres 3, Haf 1993. t7-t43.