Anna Gabriel i Sabaté

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Anna Gabriel i Sabaté
Anna Gabriel al Palau de la Generalitat (10 de febrer de 2016).jpg
Ganwyd Anna Gabriel i Sabaté Edit this on Wikidata
1975 Edit this on Wikidata
Sallent de Llobregat Edit this on Wikidata
Man preswyl Genefa Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth  Catalwnia
Alma mater
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd, constitutional lawyer, social educator Edit this on Wikidata
Swydd city councillor of Sallent, Aelod o Senedd Catalwnia Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol CUP – Plaid Wleidyddol Gatalanaidd Edit this on Wikidata
Mam Maribel Sabaté Edit this on Wikidata
Llofnod
Signatura Anna Gabriel i Sabaté.jpg

Cymdeithasegydd, addysgwr ac Athro Prifysgol o Gatalwnia yw Anna Gabriel i Sabaté (Sallent, Catalwnia, 1975) ac aelod o Lywodraeth Catalwnia o 2015 hyd at 2017. Mae'n cynrychioli plaid gwrth-gyfalafol a thros-annibyniaeth - y CUP – Plaid Wleidyddol Gatalanaidd (y Candidatura d'Unitat Popular).[1][2]

Magwraeth ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed yn 1975 i deulu o fwynwyr ac hyrwyddwyr undebau llafur, yn nhref gweithiol Sallent de Llobregat, 70 km i'r gogledd o Farcelona. Astudiodd y gyfraith a chychwynodd weithio fel darlithydd yn yr adran hanes y gyfraith, ym Mhrifysgol Annibynnol Barcelona. Cychwynodd ymhel â gwleidyddiaeth pan oedd yn 16 oed pan ymunodd gyda sawl llwyfan gwrth-ffasgiaidd.[3]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Anna Gabriel i Sabaté yn annerch cyfarfod yn 2015.

Gweithiodd am ychydig fel llefarydd yr ymgyrch dros annibyniaeth "Independència per canviar-ho tot" ("Annibyniaeth i Newid Popeth") a bu'n gynghorydd Cyngor Dinas Sallent rhwng 2003 a 2011. Cynrychiolodd y CUP yn etholiad Cyffredinol Sbaen yn 2004.[4] Yn nhymor seneddol 2012-2015 gweithiodd fel cydgysylltydd grwp seneddol y CUP.

Yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015 fe'i hetholwyd yn ddirprwy dinas Barcelona ac am ddwy flynedd hi oedd llefarydd y blaid, yn genedlaethol.[5]

Wedi Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 pan anafwyd dros fil o Gatalwniaid gan heddlu Sbaen, galwyd Anna Gabriel i Sabaté i Uwch-lys Sbaen i roi tystiolaeth ynghylch ei gwaith a'i chyfraniad i'r digwyddiadau hyn.[1][3]. Ar 20 Chwefror dywedodd mewn cyfweliad gyda Le Temps nad oedd ganddi unrhyw fwriad i fynd i'r llys ac y byddai'n mynd i'r Swistir.[6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: