Anhwylder Hunaniaeth Datgysylltiol
| Enghraifft o: | afiechyd meddwl, dosbarth o glefyd |
|---|---|
| Math | anhwylderau Datgysylltol, clefyd, identity disorder, multiplicity |
| Arbenigedd meddygol | Seiciatreg |
| Symptomau | Multiplicity, amnesia, amhersonoliaeth, derealization |
| Achos | Psychological trauma, childhood trauma |
| Dynodwyr | |
| Thesawrws NCI | C94330 |
| Freebase | /M/09wnd |
| MeSH | D009105 |
| UMLS CUI | C0026773 |
Os oes gennych Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol (dissociative identity disorder – DID) byddwch yn profi newidiadau sylweddol yn eich hunaniaeth.
Arferai Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol gael ei alw’n ‘Anhwylder Personoliaeth Luosog’ (multiple personality disorder).
Gall rhywun sydd â DID ‘weld’ eu hunan fel petai wedi ei wneud o nifer o ‘rannau’ (‘alters’ neu ‘parts’) sydd i gyd yn gweithredu, meddwl, profi a rhyngweithio â’r byd yn annibynnol ac ar wahân i’w gilydd.
Rhwng y ‘rhannau’ yma mae yna amnesia ar raddau amrywiol. Mae hyn yn achosi dryswch difrifol ac yn arwain at gael meddyliau, hoffterau, cas bethau a theimladau sy’n gwrthdaro â’i gilydd o fewn y person yn ei gyfanrwydd. Gall bobl canfod eu bod wedi dweud neu wneud rhywbeth, neu wedi teithio i lefydd, heb unrhyw atgof o wneud hynny o ganlyniad i’r amnesia a achoswyd gan y datgysylltu.
Symptomau Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol
[golygu | golygu cod]- Gwahanol agweddau ar eich hunaniaeth yn rheoli’ch ymddygiad a’ch meddyliau ar adegau gwahanol
- Mae gan bob un o’ch hunaniaethau batrymau meddwl gwahanol
- Mae eich hunaniaethau yn ymddangos fel oedrannau a rhyweddau gwahanol
- Teimlo bod gennych un ‘brif’ rhan o’ch hunaniaeth sy’n teimlo mwy fel ‘chi’
- Mae gan wahanol rannau o’ch hunaniaeth atgofion neu brofiadau sy’n gwrthdaro â’i gilydd.
- Nid oes gennych reolaeth dros pryd fydd gwahanol rannau o’ch hunaniaeth yn cymryd drosodd
- Profi amnesia sy’n golygu nad ydych yn cofio beth sy’n digwydd pan fo rhan arall o’ch hunaniaeth yn rheoli[1][2][3]
| Cyngor meddygol |
|
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Anhwylderau Datgysylltol ar wefan
Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall |
- ↑ "Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol". meddwl.org. 2021-05-16. Cyrchwyd 2022-05-04.
- ↑ "See Me is Scotland's Programme to tackle mental health stigma and discrimination". www.seemescotland.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-04.
- ↑ "What are dissociative disorders?". www.mind.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-04.