Anhwylder Dysmorphia’r Corff

Oddi ar Wicipedia
Anhwylder Dysmorphia’r Corff
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathanhwylder somatoform, hypochondriasis, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Anhwylder Dysmorffia’r Corff (BDD) yn anhwylder gorbryder sy’n achosi person i gamfarnu sut maen nhw’n edrych ac i dreulio llawer o amser yn poeni am eu hymddangosiad.

Er enghraifft, efallai y bydd yn argyhoeddedig bod craith sydd bron yn anweladwy yn nam corfforol y mae pawb yn syllu arno, neu fod eu trwyn yn edrych yn annormal.

Nid yw cael BDD yn golygu bod person yn ymffrostgar neu gydag obsesiwn am eu hunan. Gall BDD effeithio ar fywyd bob dydd mewn modd difrifol ac yn aml mae’n effeithio ar waith, bywyd cymdeithasol a pherthynas person â phobl eraill.

Er nad yw BDD yr un fath ag Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD), ceir rhai nodweddion tebyg. Er enghraifft, efallai y bydd y person yn gorfod ailadrodd pethau penodol, megis cribo eu gwallt, coluro, neu dynnu eu croen er mwyn ei wneud yn “esmwyth.” Gall BDD hefyd arwain at iselder, hunan-niweidio a hyd yn oed meddyliau am hunanladdiad.

Symptomau[golygu | golygu cod]

  • Cymharu eu pryd a’u gwedd â phobl eraill yn gyson
  • Treulio amser maith o flaen y drych, ond ar adegau eraill osgoi drychau yn gyfan gwbl
  • Treulio amser maith yn cuddio’r hyn maent yn ystyried yn nam corfforol
  • Teimlo yn dorcalonnus am ran benodol o’u corff (fel arfer eu hwyneb)
  • Bod yn gyfrinachol iawn ac yn amharod i ofyn am gymorth, oherwydd y credant y bydd pobl eraill yn meddwl eu bod yn ymffrostgar neu gydag obsesiwn am eu hunan
  • Chwilio am driniaeth feddygol ar gyfer y nam corfforol canfyddedig – er enghraifft, efallai y byddant yn cael llawdriniaeth gosmetig, sy’n annhebygol o leddfu eu trallod
  • Colli pwysau ac ymarfer corff gormod

Triniaeth[golygu | golygu cod]

Mae ymchwil ar drin BDD yn gyfyngedig ond gall meddyginiaeth gwrthiselder SSRI a therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) bod yn effeithiol yn trin BDD.[1][2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Anhwylder Dysmorffia'r Corff". meddwl.org. 2017-02-27. Cyrchwyd 2022-02-28.
  2. "Body dysmorphic disorder (BDD)". nhs.uk (yn Saesneg). 2021-02-10. Cyrchwyd 2022-05-04.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Anhwylder Dysmorphia’r Corff (BDD) ar wefan , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall