Anglo-Persian Oil Company
| Delwedd:POI palayeshgah 2 Nevit.jpg, Anglo-Persian Oil Company workers (2).jpg, Anglo-Persian Oil Company former building in Tehran 2.jpg | |
| Enghraifft o: | busnes, oil company, cwmni |
|---|---|
| Daeth i ben | 1955 |
| Dechrau/Sefydlu | 1909 |
| Olynwyd gan | BP |
| Isgwmni/au | Eurotank, Anglo-Egyptian Oilfields Ltd, Runo-Everth Treibstoff- und Oel, OLEX |
| Ffurf gyfreithiol | cwmni |
| Cynnyrch | gasoline |
| Pencadlys | Llundain |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03jv2_ |
Cwmni oedd yr Anglo-Persian Oil Company (APOC, Persian: شرکت نفت ایران و انگلیس; 1909–35), a elwid yn ddiweddarach yr Anglo-Iranian Oil Company (AIOC; 1935–54). Hwn oedd y cwmni cyntaf i echdynnu petroliwm yn Iran.
Sefydlwyd yr Anglo-Persian Oil Company, Ltd. ar 14 Ebrill 1909 yn sgil darganfyddiad maes olew mawr ym Masjed Soleyman, a leolir heddiw yn nhalaith Khūzestān yn ne-orllewin Iran. Cafodd yr hawl echdynnu, a elwir "Consesiwn D'Arcy", ei rhoddi'n wreiddiol gan lywodraeth Persia i William Knox D'Arcy, buddsoddwr o Loegr, mewn contract a arwyddwyd gan Mozaffar ad-Din Shah Qajar a D'Arcy ym 1901. O'r diwedd, daeth D'Arcy a'i dîm archwilio o hyd i olew ym 1908, a ffurfiodd y Burmah Oil Company yr APOC yn is-gwmni i gymryd yr hawl echdynnu. Gosodwyd piblinellau i gysylltu'r ffynhonnau olew yn y mynyddoedd ag Abadan, ger Shatt al-Arab, ac yno dechreuwyd adeiladu'r burfa olew fwyaf yn y byd ar y pryd. Dechreuodd porthladd Abadan allforio olew ym Mawrth 1912.[1] Prynodd llywodraeth y Deyrnas Unedig 51% o'r cwmni ym 1914.[2] gan felly ennill rheolaeth ar gyfranddaliadau a gwladoli'r cwmni i bob pwrpas.
Elwodd y cwmni yn sylweddol ar y galw am olew yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac erbyn y 1920au, APOC oedd un o'r cwmnïau olew mwyaf yn y byd. Daeth Consesiwn D'Arcy i ben ym 1932, a chytunwyd ar delerau newydd rhwng Persia a'r Prydeinwyr. Ym 1935 fe'i ailenwyd yn yr Anglo-Iranian Oil Company, Ltd., wedi i Reza Shah ymofyn yn ffurfiol i wledydd eraill gyfeirio at y wlad gan yr enw "Iran" yn hytrach na Phersia.[3]
Ym Mawrth 1951, cafodd asedau lleol y cwmni eu meddiannu gan lywodraeth y Prif Weinidog Mohammad Mosaddegh fel rhan o'r polisi o wladoli'r diwydiant olew yn Iran. Sefydlwyd y National Iranian Oil Company (NIOC) i gymryd lle'r AIOC yn Iran. Gwrthwynebwyd hyn yn llym gan lywodraethau'r Deyrnas Unedig ac Unol Daleithiau America, ac ysgogwyd "Argyfwng Abadan" yn sgil gohirio'r consesiwn. Yn Awst 1953, lansiwyd coup d'état gan Mohammad Reza Pahlavi, gyda chefnogaeth y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau, i ddymchwel Mosaddegh. Ffurfiwyd consortiwm ym 1953 rhwng yr AIOC a chwmnïau olew eraill, ac ailenwyd yr AIOC eto ym 1954 yn The British Petroleum Company (bellach BP).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) BP PLC. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Mai 2026.
- ↑ Kuiken, Jonathan (2014). "Caught in Transition: Britain's Oil Policy in the Face of Impending Crisis, 1967–1973". Historical Social Research / Historische Sozialforschung 39 (4): 272–290. JSTOR 24145537.
- ↑ # John H. Lorentz, Historical Dictionary of Iran (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2007), tt. 28–9.