Neidio i'r cynnwys

Anglicaniaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Anglicanaidd)
Anglicaniaeth
Enghraifft o'r canlynolChristian denominational family Edit this on Wikidata
MathProtestaniaeth Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBroad church, Anglo-Gatholigiaeth, Evangelical Anglicanism, Quanglican Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cangen o Gristnogaeth Orllewinol yw Anglicaniaeth a chanddi ei gwreiddiau yn y Diwygiad Seisnig a thoriad Eglwys Loegr oddi ar Eglwys Rufain yn yr 16g. Er iddi ddatblygu yng nghyd-destun y Diwygiad Protestannaidd yn Ewrop, nid yw Anglicaniaeth o reidrwydd yn ffurf ar Brotestaniaeth: mae nifer o Anglicaniaid yn ystyried eu ffydd yn "ffordd ganol" rhwng yr Eglwys Gatholig a'r mudiad Protestannaidd, a nodweddir eglwysi Anglicanaidd gan gyfuniad o ddiwinyddiaeth Brotestannaidd a ffurfwasanaeth a thradddiadau Catholig. Mae'r nifer fwyaf o Anglicaniaid yn rhan o'r Cymundeb Anglicanaidd, grŵp o eglwysi cenedlaethol, annibynnol dan arweiniad seremonïol Archesgob Caergaint sydd yn cadw cysylltiadau â'r fameglwys, Eglwys Loegr.

Nodweddir diwinyddiaeth Anglicanaidd gan agwedd lydan a chynhwysol, a dynnir yn bennaf ar y Diwygwyr Seisnig ond hefyd ar fudiadau Protestannaidd y cyfandir a pheth o'r hen ddiwinyddiaeth Gatholig. Gosododd Thomas Cranmer ac arweinwyr eraill yn hanes cynnar Eglwys Loegr sylfaen ar gyfer credoau ac athrawiaethau Anglicanaidd, gyda phwyslais ar awdurdod y Beibl, cyfiawnhad drwy ffydd, ac offeiriadaeth yr holl gredinwyr. Dogfennau dechreuol yr eglwys Anglicanaidd yw'r Llyfr Gweddi Cyffredin a'r Deugain Namyn Un Erthygl. Yn Lloegr, cadwai arferion addoli a ffurfwasanaethau fwy o'r traddodiadau Catholig nag eglwysi diwygiedig eraill Ewrop, ac felly mae'r Ewcarist o hyd yn elfen ganolog o wasanaethau Anglicanaidd, a nodir y ffydd gan draddodiad litwrgïaidd telynegol, gydag amryw weddïau a defodau ar gyfer achlysuron ym mywydau'r ffyddlon, gan gynnwys y bedydd, y briodas a'r angladd yn ogystal ag addoliad beunyddiol.

Cedwir Anglicaniaeth strwythur hierarchaidd, yn debyg i'r Eglwys Gatholig, gydag archesgobion, esgobion, offeiriaid, a diaconiaid, ond heb ffigur tebyg i'r pab neu goleg o gardinaliaid. Pennaeth y Cymundeb Anglicanaidd mewn enw ydy Archesgob Caergaint, a ystyrir yn arweinydd ysbrydol yr Anglicaniaid yn fyd-eang, ac efe sy'n galw Cynhadledd Lambeth ynghyd, pob 10 mlynedd fel arfer. Prif Lywodraethwr Eglwys Loegr ydy brenin neu frenhines y Deyrnas Unedig, ond nid oes ganddo rôl swyddogol yn y cymundeb. Rhennir y cymundeb yn daleithiau: yn ogystal â'r fameglwys yn Lloegr, mae'r Eglwys yng Nghymru, Eglwys Esgobol yr Alban, Eglwys Iwerddon, yr eglwysi Anglicanaidd yng Nghanada, Awstralia, a Seland Newydd, yr Eglwys Esgobol yn Unol Daleithiau America, a nifer o eglwysi cenedlaethol a rhanbarthol eraill ar draws Affrica, Asia, yr Amerig, ac Oceania. Yn ogystal, mae ambell eglwys fechan mewn cymundeb llawn â'r Cymundeb Anglicanaidd, ac eraill yn eglwysi heb fod yn rhan o dalaith eglwysig benodol. Mae gan bob dalaith eglwysig strwythur lywodraethol ei hun, yn hunanlywodraethol i raddau helaeth.

Mae annibyniaeth yr amryw eglwysi Anglicanaidd wedi creu cangen hynod o amryfal o'r ffydd Gristnogol. Unir Anglicaniaid o gwmpas y byd gan ambell gredo ddiwinyddol graidd, ond fel arall mae gwahaniaethau sylweddol yn nhermau eu harferion ac athrawiaethau. O ganlyniad, ymgodai sawl ffurf ar "eglwysyddiaeth", gan gynnwys mudiadau'r Uchel Eglwys (megis Anglo-Gatholigiaeth), yr Isel Eglwys (Anglicaniaeth Efengylaidd), a'r Eglwys Lydan yng "nghanol y ffordd". Mae anghytuno dros bynciau llosg megis offeiriaid benywaidd a chyfunrywioldeb wedi rhoi straeon ar undeb y cymundeb.

Bôn yr enw ydy'r ffurf Ladin ganoloesol anglicus, sef Eingl neu Sais. Tarddir ei ystyr grefyddol, i gyfeirio at yr eglwys Gristnogol yn Lloegr, o'r Magna Carta (1215): Anglicana ecclesia libera sit, "bydded eglwys Lloegr yn rhydd". Defnyddiwyd y term Saesneg Anglicanism am y tro cyntaf gan John Henry Newman ym 1838 i ddynodi ffurf Seisnig unigryw ar Gristnogaeth a oedd yn wahanol i Brotestaniaeth. Ar y cychwyn yr oedd yn gyfystyr ag Anglo-Gatholigiaeth, neu hyd yn oed traddodiad yr Eglwys Gatholig yn Lloegr, ond erbyn diwedd y 19g daeth i olygu'r "ffordd ganol" rhwng Catholigiaeth a Phrotestaniaeth a ddeillir o Eglwys Loegr.[1] Ymddangosodd y trosiad Cymraeg "Anglicaniaeth" yn gyntaf ym 1908.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mark Chapman, Anglicanism: A Very Short Introduction (Rhydychen: Oxford University Press, 2006), t. 4.
  2.  Anglicaniaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Awst 2023.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Bruce Kaye, An Introduction to World Anglicanism (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2008).
  • Kevin Ward, A History of Global Anglicanism (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2006).