Neidio i'r cynnwys

Angharad Jones

Oddi ar Wicipedia
Angharad Jones
Angharad Jones yn Seremoni BAFTA Cymru 2008
GanwydMeinir Angharad Jones
12 Mai 1962
Dolgellau
Bu farw8 neu'r 9 Ionawr 2010
Penarth
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma materPrifysgol Bangor
GalwedigaethAwdures, dramodydd, Bardd
Cysylltir gydaY Dylluan Wen
Adnabyddus amComisiynydd Drama S4C
TadGwyn Erfyl
PerthnasauGeraint Lovgreen Mari Lovgreen

Awdures, dramodydd, bardd a chyn-Gomisiynydd Drama i S4C oedd Angharad Jones (12 Mai 1962 - 8/9 Ionawr 2010) neu Meinir Angharad Jones. Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn ym 1995 am ei nofel Y Dylluan Wen, yn ogystal â'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym 1984. Roedd hi hefyd yn un o grëwyr y gyfres deledu boblogaidd Pengelli (S4C) ar y cyd â Gareth F. Williams, yn ogystal â chyfrannu sgriptiau i gyfresi poblogaidd eraill fel Dinas (HTV/S4C) a Pobol y Cwm (BBC/S4C).[1]

Yn enedigol o Ddolgellau, ac yn ferch i'r darlledwr Gwyn Erfyl, addysgwyd Angharad yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor. Wedi Graddio, bu'n ddarlithydd am gyfnod yn Y Coleg Normal, Bangor.[1] Treuliodd gyfnodau yn byw yng Nghaerdydd a Chaernarfon.[2]

Bu'n aelod o dîm sgriptio'r cyfresi Coleg a Dinas a Pobol y Cwm, cyn creu y gyfres Pengelli i S4C.

Clawr ei chyfrol, Y Dylluan Wen 1995

Rhwng 1996 a 2007, Angharad oedd Comisiynydd Drama S4C, ac mae ei gwaddol yn cynnwys rhai o gyfresi mwyaf poblogaidd y sianel fel Con Passionate, Caerdydd, Llafur Cariad, Talcen Caled, Fondue, Rhyw a Deinosors, Porc Peis Bach a'r ffilm Eldra.[1][2][3] Wedi ymadael ag S4C, bu'n Ymgynghorydd i sawl cwmni cynhyrchu annibynnol.[1]

Cyfansoddodd Angharad y geiriau i nifer o ganeuon y gantores Siân James, a Siân hefyd fu'n portreadu prif gymeriad y nofel Y Dylluan Wen yn addasiad ffilm S4C ohoni ym 1997. Nodwyd mai drwy ei mam, Lisa, yr etifeddodd ei doniau cerddorol. Bu'n gyfranydd cyson hefyd ar y gyfres Talwrn y Beirdd.[1]

Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf, Datod Cwlwm ym 1990.

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Darganfuwyd ei chorff yn y môr ger pier Penarth, yn oriau mân y bore ar y 9fed o Ionawr 2010.[1] Nododd Golwg ar y pryd, ei bod "hi wedi bod yn glaf mewn ysbyty lleol."[4] Mae'r heddlu yn ymchwilio i amgylchiadau ei marwolaeth ar ran y Crwner", adroddodd gwefan BBC Cymru, "...ac wrth i ymholiadau barhau maen nhw wedi dweud nad ydyn nhw'n trin y digwyddiad fel achos amheus."[2] Ym mis Mai 2010 clywodd cwest i'w marwolaeth ei bod wedi gadael pedwar nodyn hunanladdiad yn ei chartref ym Mhontcanna cyn teithio i Benarth lle cerddodd i mewn i'r môr.[5]

Cafwyd teyrnged iddi gan Meic Stephens ym mhapur Cenedlaethol The Independent.[1] Roedd ganddi un merch, Sara Maredudd.[3]

Yn 2015, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Meifod, cynhaliwyd cyfarfod arbennig i gofio amdani, ac i nodi pum mlynedd ers ei cholled trasig.[3] Roedd aelodau o'i theulu yn rhan o'r cofio gan gynnwys ei merch a'i brawd yng nghyfraith, Geraint Løvgreen.[3] Talodd y darlledwr Huw Jones a'r gantores Siân James eu teyrngedau personol iddi hefyd.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 "Angharad Jones: Television executive and Welsh prose writer". The Independent (yn Saesneg). 2010-01-25. Cyrchwyd 2025-08-01.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Cyn-gomisynydd teledu wedi marw" (yn Saesneg). 2010-01-09. Cyrchwyd 2025-08-01.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 "Y Steddfod yn cofio Angharad Jones". BBC Cymru Fyw. 2015-08-01. Cyrchwyd 2025-08-01.
  4. "Marw Angharad Jones". Golwg360. 2010-01-09. Cyrchwyd 2025-08-01.
  5. "Cwest: 'Artaith' awdures" (yn Saesneg). 2010-05-07. Cyrchwyd 2025-10-31.