Angela Rayner
| Angela Rayner | |
|---|---|
| Ganwyd | 28 Mawrth 1980 Stockport |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, undebwr llafur |
| Swydd | Shadow Secretary of State for Education, Gweinidog yr Wrthblaid dros Fenywod a Chydraddoldebau, Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Shadow First Secretary of State, Labour Party Chair, Dirprwy Arweinydd Plaid Lafur Lloegr, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig, Ysgrifennydd Gwladol dros Lefelu, Tai a Chymunedau, Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
| Partner | Sam Tarry |
| Gwobr/au | Gwobr 100 Merch y BBC |
| Gwefan | https://www.angelarayner.co.uk/ |
Mae Angela Rayner (ganwyd Bowen, 28 Mawrth 1980) yn wleidydd ac undebwr llafur o Loegr a wasanaethodd fel Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ac Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol o Orffennaf 2024 i Fedi 2025. Hi oedd dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur o 2020 i 2025. Mae hi'n Aelod Seneddol (AS) Llafur a Chydweithredol dros Ashton-under-Lyne ers 2015.
Cafodd Rayner ei geni yn Stockport, lle mynychodd Ysgol Gyfun Avondale.[1] Cafodd ei magu ar ystâd gyngor. Roedd ei mam, Lynn, yn un o 12 o blant i rieni di-waith.[2] Gadawodd Angela yr ysgol yn 16 oed tra'n feichiog a heb unrhyw gymwysterau. Yn ddiweddarach, hyfforddodd mewn gofal cymdeithasol yng Ngholeg Stockport a gweithiodd fel gweithiwr gofal. Yn y diwedd, daeth yn gynrychiolydd undeb llafur o fewn Unison. Cafodd ei dewis yn ymgeisydd yn etholaeth Ashton-Under-Lyne yn 2014. Cafodd ei hethol i'r sedd yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015.
Safodd yn llwyddiannus i fod yn ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur yn 2020. Mae hi ar asgell chwith y blaid. Yn 2022 gwrthododd ymddiheuro am alw aelod seneddol o Geidwadwr yn "scum".[3] Newidiodd ei meddwl yn ddiweddarach ac ymddiheurodd.[4] Yn dilyn buddugoliaeth Llafur yn etholiad cyffredinol 2024, ymunodd Rayner â'r llywodraeth a chafodd ei phenodi'n Ddirprwy Brif Weinidog, hi oedd yr ail fenyw yn unig i ddal y swydd. Daeth hi hefyd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol gan Starmer yn ei lywodraeth. Ymddiswyddodd o'r Llywodraeth ar 5 Medi 2025 ar ôl i adroddiad ddod i'r casgliad nad oedd hi wedi talu digon o dreth stamp wrth brynu tŷ.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pickard, Jim (11 November 2022). "Angela Rayner: 'Normally I say, "play the ball not the man". But Boris was literally the ball and the man'". Financial Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 June 2024. Cyrchwyd 12 November 2022.
- ↑ Edwardes, Charlotte (2024-03-24). "Angela Rayner on roots, rough edges and being ready for power: 'You can't go through the childhood I had and not have any fallout'". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-09-05.
- ↑ "Angela Rayner yn gwrthod ymddiheuro am alw'r Torïaid yn "scum"". Golwg360. 2021-09-26. Cyrchwyd 2025-09-05.
- ↑ Murphy, Simon (21 October 2020). "Angela Rayner apologises for calling Tory MP 'scum' in Commons". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 October 2020. Cyrchwyd 21 October 2020.
- ↑ "Angela Rayner wedi ymddiswyddo o'r llywodraeth yn dilyn sgandal treth stamp". Newyddion S4C. 5 Medi 2025. Cyrchwyd 5 Medi 2025.