Angela (cân y Trwynau Coch)

Oddi ar Wicipedia

Cân am y newyddiadurwraig Angela Rippon yw "Angela" a gyfansoddwyd gan Rhodri Williams ac a recordiwyd gan Y Trwynau Coch.

Cyhoeddwyd y stori yn y Daily Express, lle dywedodd Rippon ei bod yn hynod falch iddyn nhw greu cân amdani ond na ddylai neb ddisgwyl ei chlywed yn ei chanu, gan nad oedd ganddi lais da![1]

Ar y pryd roedd cyfansoddwr y gân, Rhodri Williams, yn canlyn newyddiadurwraig Cymraeg, sef Bethan Jones Parry a chlywir ei llais ar ddechrau'r gân. Roedd wedi colli ei ben yn llwyr gyda dwy newyddiadurwraig, felly, a dyma oedd yr ysbrydoliaeth iddo'i fynd ati.

Y Trwynau Coch[golygu | golygu cod]

Band pync/pop-pŵer Cymraeg o Gwm Tawe oedd Y Trwynau Coch. Daeth y band i amlygrwydd yn y 1970au hwyr gyda cherddoriaeth gyflym ac amrwd gyda agwedd gwrth-sefydliadol.[2].

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. bbc.co.uk/cymrufyw (Gwefan Cymru Fyw); adalwyd 8 Chwefror 2017.
  2.  Sain - Trwynau Coch. Adalwyd ar 6 Chwefror 2017.