Andrew Fletcher (o Saltoun)

Oddi ar Wicipedia
Andrew Fletcher
Ganwyd1655 Edit this on Wikidata
Saltoun Edit this on Wikidata
Bu farw1716, Medi 1716 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Alban Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddMember of the Parliament of Scotland Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCountry Party Edit this on Wikidata

Roedd Andrew Fletcher o Saltoun (1655 - Medi 1716) yn awdur a gwleidydd o'r Alban, sy'n cael ei gofio fel gwrthwynebydd i Ddeddf Uno 1707 rhwng yr Alban a Lloegr[1].

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Fletcher yn Saltoun, Dwyrain Lothian yn fab ac etifedd i Syr Robert Fletcher a Catherine Bruce ei wraig.

Cafodd ei addysgu gan Gilbert Burnet[2], gweinidog plwyf Saltun ar y pryd, ac Esgob Caersallog wedyn; cyn mynd i deithio Ewrop er mwyn cwblhau ei addysg

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Etholwyd Fletcher i Senedd yr Alban fel Comisiynydd Swydd Haddington ym 1678. Ar y pryd, John Maitland, Dug cyntaf Lauderdale oedd cynrychiolydd Siarl II yn yr Alban. Roedd gan y Dug bwerau i godi trethi yn yr Alban, a chynhaliodd fyddin sefydlog yno yn enw'r Brenin. Bu Fletcher yn wrthwynebydd ffyrnig i'r Dug, i lywodraeth frenhinol yn yr Alban, ac i'r drefn o etifeddu grym gwleidyddol. Fel aelod o Blaid y Wlad, yr wrthblaid yn senedd yr Alban roedd Fletcher hefyd yn gwrthwynebu unrhyw gamau mympwyol ar ran yr Eglwys neu'r wladwriaeth.

Alltudiaeth[golygu | golygu cod]

O herwydd ei farn wleidyddol cafodd Fletcher ei gyhuddo o gynllwynio yn erbyn y Brenin ym 1683, a bu'n rhaid iddo ffoi o'r Alban[3]. Ymunodd â grŵp o wrthwynebwyr Saesnig y Brenin Siarl yn yr Iseldiroedd, o dan arweiniad James Scott, Dug 1af Mynwy. Cafodd ei benodi'n bennaeth ar gatrawd o wŷr meirch, fel rhan o luoedd Gwrthryfel Dug Trefynwy (ymgais aflwyddiannus i ddisodli'r Brenin Iago II & VII). Bwriad Fletcher oedd taro yn sydyn yn erbyn y catrodau milisia sirol wrth iddynt gael eu ffurfio. I ddilyn ei gynllun roedd angen ceffyl cyflym arno, a phenderfynodd atafaelu un gan Thomas Dare, un arall o gefnogwyr y Dug. Doedd Dare dim yn fodlon colli ei geffyl a bu ffrwgwd rhyngddo a Fletcher a arweiniodd at Dare yn cael ei saethu'n farw[4]. Gan nad oedd Trefynwy am greu rhwyg ymysg ei ddilynwyr penderfynodd y Dug i ddanfon Fletcher yn ôl i alltudiaeth.

Ymunodd Fletcher â'r Tywysog Wiliam o Orange, a dychwelodd i wledydd Prydain gyda'r tywysog wrth iddo oresgyn yr ynysoedd ym 1688. Adferwyd ei ystadau a'u statws iddo gan y tywysog wedi iddo gael ei ddyrchafu'n frenin[5] ond collodd Fletcher ymddiriedaeth yn y Brenin William III & II pan ddaeth yn amlwg bod William am ddefnyddio'i breniniaethau newydd er mwyn ei helpu i ymladd rhyfeloedd tramor.

Gwrthwynebu'r Ddeddf Uno[golygu | golygu cod]

Plac er cof am Andrew Fletcher

Adferwyd ystadau Fletcher iddo ac ail ymunodd a bywyd cyhoeddus yr Alban gan bledio achos hawliadau ei wlad dros fuddiannau Lloegr yn ogystal â gwrthwynebu pŵer brenhinol. Ym 1703, mewn cyfnod allweddol yn hanes yr Alban, daeth Fletcher unwaith eto yn aelod o Senedd yr Alban fel yr aelod dros Swydd Haddington. Erbyn hyn roedd y Frenhines Anne ar yr orsedd ac roedd ymgyrch i uno Lloegr a'r Alban mewn undod seneddol yn ogystal ag undod brenhinol.

Bu Fletcher yn gefnogwr cynnar i Gynllun Darien, ymgais aflwyddiannus gan uchelwyr yn yr Alban i droi'r wlad yn wlad fasnachu byd eang trwy sefydlu gwladfa o'r enw "Caledonia" yn Panama ar ddiwedd y 1690au. Trodd y cynllun yn drychineb ariannol a chollwyd hyd at 50% o holl gyfoeth yr Alban trwy ei fethiant. Roedd Fletcher a Phlaid y Wlad yn beio methiant y cynllun ar ymyrraeth fwriadol Lloegr i sicrhau ei fethiant ac yn galw'r ymyrraeth yn weithred o elyniaeth gan Loegr; bu'n ymgyrch i ddod ag undod coronau'r Alban a Lloegr i ben ac i'r Alban cael ei godi'n wlad cyfan gwbl annibynnol eto[6].

Trwy ddifetha'r elit gwleidyddol yn arianol, roedd cynllun Darién wedi gwanhau gwrthwynebiad i gynlluniau Lloegr ar gyfer Undeb - trwy i Loegr gynnig digolledu rhywfaint o'r arian a gollwyd i Albanwyr a fyddai'n cefnogi undeb y seneddau. Parhaodd Fletcher i ddadlau yn erbyn 'undeb ymgorffori' ac ar gyfer undeb ffederal i ddiogelu cenedl yr Alban. Er nad lwyddodd i atal y Ddeddf Uno gael ei basio gan Senedd yr Alban trwy'r dadleuon hyn, enillodd Fletcher gydnabyddiaeth fel gwladgarwr annibynnol.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Claddgell teulu Fletcher, Saltoun

Ym 1707 cafodd y Ddeddf Uno ei gymeradwy gan Senedd yr Alban, gan uno'n swyddogol yr Alban â Lloegr i ffurfio Teyrnas Prydain Fawr. Ymneilltuodd Fletcher o wleidyddiaeth mewn anobaith ac ymroddodd weddill ei fywyd i ffermio a datblygu amaeth yr Alban. Bu farw yn ddibriod yn Llundain ym mis Medi 1716. Ei eiriau olaf oedd 'Arglwydd rho drugaredd i fy ngwlad dlawd sydd wedi cael ei ormesi mewn modd mor farbaraidd'. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd mewn claddgell o dan Eglwys blwyf Saltun.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]