André Malraux
| André Malraux | |
|---|---|
| Ganwyd | Georges André Malraux 3 Tachwedd 1901 Paris, 18fed arrondissement Paris |
| Bu farw | 23 Tachwedd 1976 o canser Créteil |
| Man preswyl | Paris |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, golygydd ffilm, hanesydd celf, nofelydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, beirniad celf, rhyddieithwr, dramodydd, archeolegydd, gwrthryfelwr milwrol |
| Swydd | Gweinidog y Wladwriaeth, Minister of Culture (France), Minister of Culture (France), Minister of Culture (France), Minister of Culture (France), Minister of Culture (France), Minister of Culture (France) |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Man's Fate |
| Prif ddylanwad | Maurice Barrès, André Gide, Friedrich Nietzsche |
| Plaid Wleidyddol | RPF |
| Priod | Clara Malraux, Madeleine Malraux |
| Partner | Josette Clotis, Louise Lévêque de Vilmorin |
| Plant | Florence Malraux |
| Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur, Croix de guerre 1939–1945, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Cymrawd y 'Liberation', Urdd Gwasanaeth Nodedig, Q137970105, Urdd Seren y Gogledd - Cadlywydd y Groes Uwch, Croes Uwch Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Prix Interallié, Uwch Ruban Urdd Cenedlaethol y Cedrwydd, Uwch Groes Urdd y Goron, Uwch Groes Urdd y Goron Dderw, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Uwch swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Groes Urdd Cleddyf Sant'Iago, Uwch Groes Dannebrog, Uwch Groes Urdd Wissam El Alaouite, Uwch Groes Urdd Sior I, Prif Ruban Urdd y Wawr, Grand officier de l'ordre national de la Croix du Sud, Urdd Seren y Cyhydedd, Gwobr Goncourt, Gwobr Louis Delluc, Order of the Republic, Alfonso Reyes International Prize, Grand Prize for the Best Novels of the Half-Century, Marchog Dosbarth Cyntaf Urdd Llew y Ffindir, Grand Cross of the Order of the Lion of Finland |
| llofnod | |
Llenor a gwleidydd o Ffrainc oedd André Malraux, enw llawn Georges André Malraux (3 Tachwedd 1901 - 23 Tachwedd 1976).
Ganwyd ef yn ninas Paris. Gwahanodd ei rieni pan oedd yn bedair oed, ac ni chafodd addysg uwch. Roedd i raddau helaeth yn hunan-addysgedig. Aeth i drefedigaethau Ffrainc yn Indo-Tsieina, lle sefydlodd gylchgrawn gwrth-imperialaidd. Carcharwyd ef yn 1923-1924 am ddelio mewn hynafiaethau yn Phnom Penh; defnyddiodd y profiad yn ei waith diweddarach La Voie royale (1930). Ymladdodd yn Rhyfel Cartref Sbaen dros y Gweriniaethwyrm ac yn erbyn yr Almaenwyr yn yr Ail Ryfel Byd fel aelod o'r Résistance Ffrengig. Wedi'r rhyfel, daeth yn un o gefnogwyr Charles de Gaulle, a bu'n Weinidog Diwylliant rhwng 1959 a 1969, er ei fod yn parhau i gael ei ystyried yn rhan o'r adain chwith. Claddwyd ef yn y Panthéon ym Mharis.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]- La Tentation de l'Occident (1926)
- Les Conquérants (1928)
- Royaume-Farfelu (1928)
- La Voie royale (1930) – Prix Interallié
- La Condition humaine (1933) – Prix Goncourt
- Le Temps du mépris (1935)
- L'Espoir (1937)
- Espoir, sierra de Teruel (1938)
- Le Démon de l'Absolu (1946)
- Esquisse d'une psychologie du cinéma (1946)
- Psychologie de l'Art (tair cyfrol: 1947, 1948, 1950)
- Les Voix du silence (1951)
- L'Homme précaire et la littérature (1977) – cyhoeddwyd wedi ei farwolaeth
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Paul Birt, Malraux, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1980)