Andorra (drama)
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Max Frisch |
| Iaith | Almaeneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1961 |
| Dyddiad y perff. 1af | 2 Tachwedd 1961 |
| Dynodwyr | |
Drama lwyfan gan y dramodydd o'r Swistir Max Frisch yw Andorra a lwyfanwyd gyntaf ym 1961. Mae'n enghraifft o Theatr epig. Daeth y testun gwreiddiol o fraslun rhyddiaith a ysgrifennodd Frisch yn ei ddyddiadur o'r enw Der andorranische Jude [Iddew Andorra]. Mae'r Andorra yn nrama Frisch yn ffuglennol ac nid yw'n gynrychiolaeth o'r Andorra go iawn a leolir rhwng Ffrainc a Sbaen. Mae Frisch wedi datgan mai dim ond fel teitl gweithredol y bwriadwyd yr enw Andorra ond yn ddiweddarach roedd yn hoffi'r term "Andorrans" gymaint nes iddo ei gadw. Yn yr Almaen, mae'r ddrama hon yn cael ei hystyried ymhlith dramâu gorau Frisch. Llwyfannwyd addasiad Cymraeg Siwan Ellis o'r ddrama gan Theatr Powys ym 1998.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]| Cymeriadau Frish | Cyfieithiad Cymraeg |
|---|---|
| der Lehrer | yr athro |
| die Mutter | y fam |
| die Schwarzen | y 'duon' |
| Andri | Andri |
| Barblin | Barblin |
| der Pater | yr offeiriad |
| der Soldat | y milwr |
| der Wirt | lletywr |
| der Tischler | saer coed |
| der Geselle | y teithiwr |
| der Doktor | y meddyg |
| die Senora | y Señora |
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae'r ddrama yn ein hudo i ganol Ewrop yn y 1960au, "i godi cwestiynau mawr ynghylch hunaniaeth yr unigolyn mewn cymdeithas, ac i'n hatgoffa o brofiad mwyaf ysgytwol yr [20fed] ganrif yn Ewrop, sef Yr Holocawst. Mae Andri yn blentyn siawns i athro ysgol, ond am nad yw'r athro erioed wedi medru cyfaddef hynny, creodd stori ei fod yn rhoi lloches i blentyn Iddewig o 'dros y ffin'. Yn y celwydd hwn y mae egin trasiedi Andri, sydd wedi'i fagu yn y gred ei fod yn Iddew: mae'n methu diosg yr hunaniaeth honno pan ddaw'r Ffasgwyr dros y ffin."[1]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Ym 1964, cyfieithwyd ac addaswyd Andorra ar gyfer cynulleidfa Saesneg gan Michael Bullock a'i chynhyrchu gan Theatr Genedlaethol Frenhinol Prydain Fawr, dan gyfarwyddyd Lindsay Anderson.[2] Yn 2001, cynhyrchwyd adfywiad o'r ddrama gan Theatr yr Young Vic a Stiwdio Theatr Genedlaethol Frenhinol, dan gyfarwyddyd Gregory Thompson a'i pherfformio yn yr Young Vic.[3] Ym 1998, cafwyd cynhyrchiad Cymraeg o'r ddrama gan Theatr Powys.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwilym, Lowri (Ionawr 1998). "Hualau Hunaniaeth a Rhyddid Iaith". Barn.
- ↑ "CalmView: Overview". catalogue.nationaltheatre.org.uk. Retrieved 2024-05-27.
- ↑ Frisch, Max (2001). Andorra. Translated by Bullock, Michael. London: Methuen drama. ISBN 978-0-413-30510-7.