An Comunn Gàidhealach
| Enghraifft o: | sefydliad |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1874 |
| Pencadlys | Inverness |
| Gwefan | http://www.ancomunn.co.uk/ |
| Dynodwyr | |
Mae An Comunn Gàidhealach (ynganiad: [əŋ ˈkʰomən̪ˠ ˈkɛːəl̪ˠəx]; yn llythrennol "Y Gymdeithas Aeleg"), a elwir yn gyffredin yn An Comunn, yn sefydliad Albanaidd sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo iaith Gaeleg a diwylliant a hanes Gaeleg yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae cysylltiad agos rhwng y gymdeithas a’r Mòd Cenedlaethol . Y symbol a ddefnyddir ar gyfer y Comunn Gàidhealach yw baner Gwyddelig 'Tywynau Haul' (Sunburst; An Gal Gréine) ar y brig sydd hefyd yn symbol a gysylltir ym mytholeg Iwerddon a'r delyn Geltaidd ar y gwaelod ar y dde.
Hanes
[golygu | golygu cod]
Fe’i sefydlwyd yn Oban ym 1891 i helpu i warchod a datblygu’r iaith Aeleg ac i sefydlu’r Mòd Cenedlaethol Brenhinol (Gaeleg: An Mòd Nàiseanta Rìoghail), gŵyl[1] o gerddoriaeth, celfyddydau a diwylliant Gaeleg a fodelwyd yn wreiddiol ar yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nghymru. Heddiw mae'r Comunn yn annog dysgu, dysgu a defnyddio'r iaith Aeleg, ac astudio a meithrin llenyddiaeth, hanes, cerddoriaeth a chelf Gaeleg.[2]

Rhwng 1905 a 1922 cyhoeddodd y Comunn Gàidhealach gylchgrawn misol o'r enw An Deo-Grèine.[3] Disodlwyd hwn yn 1923 gan An Gaidheal (yn llythrennol "Y Gael") a barhaodd hyd 1967,[4] pan barhaodd y papur newydd dwyieithog Sruth ("Ffrwd") hyd 1970.[5]
Amcanion Comunn Gàidhealach
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â threfnu'r Mód Genedlaethol mae gan y Gymdeithas yr amcan i gefnogi a datblygu pob agwedd ar yr iaith, diwylliant, hanes a threftadaeth Gaeleg ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol drwy:[6]
- Hyrwyddo’r defnydd o’r iaith ym mywyd bob dydd y gymuned.
- Hyrwyddo astudio a datblygu iaith, llenyddiaeth, cerddoriaeth, drama Gaeleg a phob ffurf arall ar gelfyddyd gysylltiedig.
- Mynd ati i geisio cydnabyddiaeth swyddogol a defnydd o’r Aeleg fel iaith fyw ac ased cenedlaethol gan Lywodraethau lleol, cenedlaethol ac Ewropeaidd ac asiantaethau eraill, trwy gydweithio â’r holl sefydliadau eraill sy’n ymwneud â darparu iaith a diwylliant Gaeleg
Mae’r Comunn Gàidhealach yn anwleidyddol ac ansectyddol, ac mae aelodaeth yn agored i unrhyw un sy’n rhannu’r amcanion uchod
Rheolaeth
[golygu | golygu cod]Penodwyd Kenneth MacIver yn gyfarwyddwr cynorthwyol ym 1974.[7] Prif Weithredwr y sefydliad yn 2024 oedd James Graham (Seumas Greumach).[8]
Mae ei swyddfeydd yn Inverness a Steòrnabhagh, gyda phedwar aelod o staff yn Inverness a dau yn Steòrnabhagh].[9] Noddwr yw'r Brenin Siarl III. Ni ddylid drysu rhwng y sefydliad a An Comunn Gàidhealach America, Comunn na Gàidhlig, neu Bòrd na Gàidhlig.
Llywyddion y Comunn
[golygu | golygu cod]Fel sy'n gyffredin yn Iwerddon, arddelir fersiwn Gaeleg o enwau pobl wrth ymwneud â maes benodol Gaeleg. Felly gwelir yma yr enwau Gaeleg, er, y gall bod y personau hefyd yn adnabyddus wrth eu henwau bedydd Saesneg e.e. John MacLeod, Allan Campbell, Maggie Cunningham.
| Enw | Dyddiad |
|---|---|
| Neil MacGilleSheathain | 1954-1956 [10] |
| Dòmhnull Grannd | 1966-1968 [11] |
| Iain MacLeòid | 2007-2017 [12] |
| Ailean Caimbeul | 2017-2023 [13] |
| Magaidh Choinneagan | 2023-presennol [14][13] |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ MacLeod, Murdo; Fiona Stewart (12 Hydref 2002). "Mod 2002 - and 20,000 Gaels blow in for festival of music". The Scotsman. Cyrchwyd 2006-12-19.
- ↑ "Gaelic Language Organizations". An Comunn Gàidhealach, Ameireaga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Medi 2010. Cyrchwyd 2010-04-06.
- ↑ "An deo-gréine : monthly magazine of An Comunn Gaidhealach". Catalogue record. National Library of Scotland. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2012.
- ↑ "An Gaidheal/The Gael : the official magazine of An Comunn Gaidhealach". Catalogue record. National Library of Scotland. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2012.
- ↑ "Sruth". Catalogue record. National Library of Scotland. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2012.
- ↑ "About". Gwefan ACG. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2024.
- ↑ "An Commun post". The Glasgow Herald. 27 Mawrth 1974. t. 2. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2017.
- ↑ "Staff". Gwefan ACG. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2024.
- ↑ "Staff". Gwefan ACG. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2024.
- ↑ Thomson, Derick (1994) Companion to Gaelic Scotland Glaschú: Gairm, 266.
- ↑ MacCalmain, T.M. (1971) 'Gaidheal gu Chùl' in D. Grannd "Tìr an Àigh" eag. Iain A. MacDhòmhnaill, Glaschú: Gairm, lch. 7
- ↑ "Obituary John MacLeod Champion Gaelic". The Herald. 24 Mawrth 2018.
- 1 2 "Plockton-based Maggie Cunningham steps up to president's role with Gaelic promotion organisation An Comunn Gàidhealach". Northern Times. 21 Mawrth 2023.
- ↑ "Board". Gwefan CnG. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2024.