Amsugnofesureg pelydr X egni deuol

Oddi ar Wicipedia
Amsugnofesureg pelydr X egni deuol
Enghraifft o'r canlynolperiodic health examination, medical tests on cerebrospinal fluid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Amsugnofesureg pelydr X egni deuol
Enghraifft o'r canlynolperiodic health examination, medical tests on cerebrospinal fluid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae peiriant Amsugnofesureg pelydr X egni deuol neu DEXA yn mesur dwysedd esgyrn. Mwyaf dwys yw'r esgyrn cryfaf oll fyddan nhw ac maen nhw'n llai tebygol o dorri. Bydd y sgan DEXA'n gwirio a oes gan unigolyn osteoporosis neu a yw mewn perygl o'i ddatblygu. Mae sgan DEXA yn canfod faint o galsiwm sydd yn esgyrn yr unigolyn gan na all pelydrau X cyffredin wneud hyn.

Ceir dau fath o beiriant: gall un, y DEXA Canolog, fesur dwysedd asgwrn yng nghanol y sgerbwd, e.e. y glun a'r asgwrn cefn. Mae'r llall, y DEXA Ymylol, yn beiriant llai, mwy cludadwy ac mae'n mesur dwysedd yr esgyrn ar ymyl allanol corff, e.e. arddwrn, sawdl, bys.

Mae dyfeisiau DEXA Canolog yn fwy sensitif na dyfeisiau ymylol. Mae màs asgwrn yn aml yn amrywio rhwng rhannau o'r corff: mae'n fwy manwl gywir i fesur yr asgwrn cefn neu'r glun yn hytrach na sawdl neu arddwrn. Gall y dyfeisiau ymylol helpu i ragfynegi'r risg o doriad yn yr asgwrn cefn neu'r clun, ond ni all ddilyn newidiadau yn yr esgyrn yn gywir yn ystod rhai mathau o driniaeth, fel cemotherapi. Weithiau gelwir sganiau DEXA yn sganiau dwysfesureg asgwrn, sganiau QDR, neu fesur BMD (dwysedd mwynol asgwrn).

Cyfrifir y gwahaniaeth rhwng dwysedd asgwrn a'r dwysedd cyfartalog ac fe roddir sgôr a elwir yn 'sgôr T’. Os yw'r sgôr T rhwng 0 a 1, ystyrir fod y claf o fewn yr amrediad normal. Os ydyw rhwng -1 a -2.5, y diagnosis yw osteopenia, sef yr enw am y categori o ddwysedd esgyrn rhwng normal ac osteoporosis.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)