Neidio i'r cynnwys

Amser y sêr

Oddi ar Wicipedia
Amser y sêr
Enghraifft o:safon amser Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Amser sy'n cael ei fesur gan fudiant ymddangosiadol y sêr (y "sêr sefydlog" fel y'u gelwir) o amgylch y Ddaear yw amser y sêr. Mae hyn yn wahanol i amser yr haul, sy'n cael ei fesur gan fudiant ymddangosiadol yr Haul.[1]

Prif uned amser y sêr yw'r diwrnod sêr, sy'n cael ei rannu'n oriau sêr, munudau sêr, ac eiliadau sêr. Mae seryddwyr yn dibynnu ar glociau serol oherwydd bydd unrhyw seren benodol yn trawsteithio'r un meridian ar yr un amser y sêr trwy gydol y flwyddyn.

Mae diwrnod sêr yn fyrrach o 4 munud na diwrnod cymedrig yr haul a ddangosir gan glociau cyffredin.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) sidereal time. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Ebrill 2025.