Amniosentesis

Oddi ar Wicipedia
Amniosentesis
Mathcytopathology, body fluid sampling, Sgrinio cyn-geni Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae amniosentesis yn brawf a gynhelir ar ôl 15 wythnos o feichiogrwydd i chwilio am annormaleddau neu'r posibilrwydd o annormaleddau neu gyflwr difrifol yn y ffoetws. Gall ganfod cyflyrau cromosomaidd fel syndrom Down, syndrom Edward a syndrom Patau. Mae'r rhain oll yn gyflyrau cromosomaidd ble genir y baban gyda chromosom ychwanegol. Fe'i gelwir yn braf diagnostig mewnwthiol ac fe gaiff ei gynnig i ddim ond tua 5% o fenywod beichiog. Mae ganddo risg bach o erthyliad, 0.5 - 1% (1 o bob 100 o fenywod), felly fe'i cynigir ddim ond i fenywod sydd mewn perygl y gallai eu baban ddatblygu cyflwr difrifol neu annormaledd. Mae'r rhesymau tebygol dros gynnig prawf amniosentesis yn cynnwys:

  • Oed y fam – ceir risg uwch o gael baban syndrom Down mewn menywod dros 35 mlwydd oed
  • Hanes meddygol - os oes hanes o anhwylderau cromosomaidd
  • Hanes teuluol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)