Amgueddfa reilffordd yr hen Ghan

Oddi ar Wicipedia
Locomotif stêm
Locomotif stêm
Locomotif diesel
Yr hen cledrau cul

Mae Amgueddfa reilffordd yr hen Ghan yn amgueddfa reilffordd yn Alice Springs, Tiriogaeth y Gogledd, Awstralia. Roedd rheilffordd dreftadaeth hefyd, sy wedi cau. Rheolir yr amgueddfa gan Gymdeithas Cludiant Ffordd Hanesyddol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Rheilffordd cledrau cul oedd y rheilffordd wreiddiol rhwng Adelaide a Darwin. Agorwyd rheilffordd lled safonol rhwng Adelaide ac Alice Springs ym 1980. Sefydlwyd Cymdeithas gadwriaeth y Ghan ym 1981, yn defnyddio Seidin McDonnell, i’r de o Alice Springs. Rhoddwyd grant o $800,000 ym 1987, ac adeiladwyd gorsaf reilffordd.[1] Trefnwyd prydles gyda Chomisiwn Rheilffyrdd Cenedlaethol Awstralia, ac roedd trenau i dwristiaid hyd at Seidin Ewaninga o Hydref 1988 ymlaen.[2][3][4][5]

Roedd 4 trên yn wythnosol yn y 1990au cynnar [6] gyda locomotif stêm dosbarth W neu locomotif diesel dosbarth NSU Rheilffordd y Gymanwlad, defnyddiwyd yn gynt ar y Ghan.[7][8]

Roedd gan y gymdeithas broblemau cyllidol. Stopiwyd gwasanaethau trên yn 2001. Erbyn 2005, roedd difrod sylweddol i’r locomotifau a cherbydau gan fandaliaid. Roedd atgyfodiad erbyn 2020.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cylchgrawn Cymdeithas Hanesyddol Rheilffyrdd Awstralia, Awst 1987
  2. Cylchgrawn Cymdeithas Gadwriaeth y Ghan, Mawrth 1981
  3. ’A new life begins for the Old Ghan’ yng nghylchgrawn ‘Railways of Australia’
  4. ’Ghan Preservation Society opens’, cylchgrawn ‘Catch Point’ Amgueddfa Reilffordd Genedlaethol, Port Adelaide
  5. "All new Old Ghan revival plan". Gwefan Alice Springs News. 13 Tachwedd 2020.
  6. Gwefan Alice Springs News, 16 Chwefror 2005,’New life for Old Ghan?’
  7. Continental Railway Journal, cyhoeddwyd gan Continental Railway Circle; rhif 82, tud. 356
  8. Guide to Australian heritage trains & railway museums gan Robert McKillop, cyhoeddwyd gan Gymdethas Hanesyddol Rheiffyrdd Awstralia, isbn=0909650454, tud.120|
  9. Alice Springs News, 13 Tachwedd 2020