Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Math | amgueddfa ranbarthol, amgueddfa awdurdod lleol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llys yr Esgob |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 12.7 metr |
Cyfesurynnau | 51.865463°N 4.265764°W |
Rheolir gan | Cyngor Sir Gaerfyrddin |
Perchnogaeth | Cyngor Sir Gaerfyrddin |
Mae Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn amgueddfa sirol sy'n cofnodi hanes Sir Gaerfyrddin
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Mae Amgueddfa Sir Gaerfyrddin wedi ei lleoli yn Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JG. Fe'i rheolir gan Gyngor Sir Gaerfyrddin.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r amgueddfa wedi ei gartrefu mewn adeilad a ddechreuodd fywyd fel coleg i offeiriaid, a sefydlwyd yn y 1280au, a ddaeth wedyn yn balas Esgob Tyddewi rhwng 1542 a 1974. Yma cyfieithwyd y Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi Gyffredin gyntaf i'r Gymraeg ym 1567 yn ystod esgobaeth yr Esgob Richard Davies.[1]
Arddangosfeydd a chasgliadau
[golygu | golygu cod]Mae'r amgueddfa'n adrodd hanes cyfoethog y sir trwy gasgliadau amrywiol o arteffactau, paentiadau a phortreadau. Yn ogystal, mae yma gasgliad nodedig o ddodrefn a gwisgoedd Cymreig, ystafell ysgol pentref o oes Fictoria, eitemau sy'n gysylltiedig â threftadaeth ffermio ac amaethyddol y sir ac arddangosfa am y ffrynt cartref yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r brif amgueddfa yn cynnwys 11 o orielau, gellid hefyd ymweld â bwthyn Elsa, sef bwthyn Cymreig traddodiadol, hen gegin y palas sy'n cynnwys arddangosfa o ddulliau gwledig o gynhyrchu bwyd, a chapel y palas sydd wedi'i gadw mewn cyflwr arbennig [2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyngor Sir Gar Theatrau, Celfyddydau, Amgueddfeydd
- ↑ "Gwefan swyddogol yr amgueddfa". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-10. Cyrchwyd 2019-10-10.