Amason (mytholeg)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Amazoniaid)
Amason
Amason yn paratoi ar gyfer brwydr (Pierre-Eugène-Emile Hébert, 1872)
Enghraifft o'r canlynolgrŵp o gymeriadau chwedlonol Groeg, grwp ethnig chwedlonol Edit this on Wikidata
Mathcymeriad chwedlonol Groeg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ym mytholeg Roeg, roedd yr Amasoniaid (Hen Roeg: Ἀμαζόνες yn llwyth o ferched rhyfelgar. Fe'i lleolid yn ardal Caerdroea neu yn Thrace; yn y 6ed ganrif CC credid eu bod yn byw yn Sgythia, ac yn y 5 CC yn Themiscyra gerllaw Thermodon. Yn y cyfnod Helenistaidd, lleolid hwy yn y dwyrain pell neu'r gorllewin pell.

Maent yn ymddangos mewn nifer o chwedlau ym mytholeg Roed. Er enghraifft, adroddir am ei brenhines, Penthesileia, yn cynorthwyo Caerdroea yn erbyn y Groegiaid, ac yn cael ei lladd mewn brwydr yn erbyn Achilles.

Enwyd afon Amazonas ar eu hôl ar sail hanesion Francisco de Orellana am ferched rhyfelgar ar hyd yr afon yma.