Neidio i'r cynnwys

Amaeth yn Iran

Oddi ar Wicipedia
Amaeth yn Iran
Bugeiliaid yng ngogledd-orllewin Iran yn 2008.
Enghraifft o:amaeth yn ôl gwlad neu ranbarth Edit this on Wikidata
Mathamaethu'r Ddaear Edit this on Wikidata
GwladwriaethIran Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0rfh4g6 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Amaethyddiaeth yw un o sylfeini'r economi yn Iran, er ei bod yn gymharol danddatblygedig. Gwlad fynyddig a sych yn bennaf ydy Iran: mae rhyw draean o arwynebedd y wlad yn dir amaethyddol, ond dim ond chwarter o hwnnw (10% o'r holl arwynebedd tir) yn dir âr, hynny yw, dan gnwd.[1][2] Nid oes yr un system afonydd fawr yn Iran, a dim ond un afon fordwyol (Karun) sydd yn y wlad. O ganlyniad i brinder dŵr, mae llai na thraean o'r tir âr wedi'i ddyfrhau, a ffermio sych yw'r gweddill.[2] Er gwaethaf yr anfanteision hyn, gwlad fawr gyda sawl ardal hinsoddol ydyw ac mae'r amrywiaeth hon yn galluogi cynhyrchu mwy na 57 miliwn o dunelli o nwyddau amaethyddol ar 12 miliwn o hectarau bob blwyddyn. Mae rhyw 15% o lafurlu'r wlad yn gweithio yn y sector hwn, a 90% o gyflenwadau bwyd y boblogaeth yn dibynnu ar gynnyrch mewnwladol.[1] Ceir y pridd mwyaf ffrwythlon yng ngorllewin a gogledd-orllewin y wlad.[2]

Mae tymereddau newidiol y wlad a'r nifer o ardaloedd hinsoddol yn galluogi tyfu amrywiaeth o gnydau, gan gynnwys grawnfwydydd (gwenith, haidd, reis, ac indrawn), ffrwythau (datys, ffigys, grawnafalau, melonau, olifau, a grawnwin), llysiau, cotwm, betys a chansenni siwgr, cnau (pistasio), sbeisys (saffrwm), te, tybaco, a llysiau rhinweddol.[2] Dibynna'r diwydiannau olew llysiau a choethi siwgr yn Iran ar gynnyrch amaethyddol mewnwladol ar gyfer cyfran sylweddol o'u defnyddiau crai.[3]

Mae'n bosib bod dros 40,000 o bentrefi yn Iran,[3] a chwarter yr holl boblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig.[1] Ffermydd bychain, llai na 10 hectar ydy'r arfer, sydd wedi peri i nifer o bobl ifanc fudo i'r dinasoedd a'r trefi mawr i ennill mwy o arian.[2] Mae dros hanner y boblogaeth wledig yn dibynnu, boed yn rhannol neu'n bennaf, ar dda byw.[1] Mae ffermio defaid yn bwysig yn y wlad, ac hefyd geifr, gwartheg, asynnod, ceffylau, byfflos dŵr, a mulod. Defnyddir gwlân i wneud y carpedi byd-enwog sy'n deillio o Iran. Megir dofednod am gig ac wyau, a chamelod ar gyfer cludiant.[2]

Mae nifer o'r gwledydd cyfagos yng Nghanolbarth Asia a Gwlff Persia heb dir ffermio, ac felly Iran ydy un o'r prif allforwyr amaethyddol yn Asia. Ym Mawrth 2022, roedd gan allforion blynyddol Iran o gynhyrchion amaethyddol werth US$ 5.2 biliwn, a oedd yn cyfri am 6.37% o allforion y wlad nad oedd yn ymwneud â'r diwydiant olew.[1]

Hyd at yr 20g, amaeth oedd prif gynhalydd y bobl a sail i gyfoeth y wlad. Collodd ei phwysigrwydd yn sgil datblygiad y diwydiant olew, er i gyfran sylweddol o'r boblogaeth barhau i fyw yng nghefn gwlad a dibynnu ar yr hen ffordd o fyw. Diwygio tir oedd un o brif raglenni'r Chwyldro Gwyn, yn ystod llywodraeth y Shah Mohammad Reza Pahlavi yn y 1960au a'r 1970au.

Yn sgil y Chwyldro Islamaidd ym 1979, daeth diwygio tir yn bwnc dadleuol yn y llywodraeth newydd. Aeth nifer o weithwyr amaethyddol ati i feddiannu ffermydd preifat mawr, a phenderfynodd nifer o berchnogion beidio â buddsoddi yn y sector, gan ddirywio cynhyrchiant ymhellach.[2] Cafwyd rhywfaint o ailddosbarthu tir yn unol â mesur gan y Cyngor Chwyldroadol, ond diddymwyd y polisi hwn gan Gyngor y Gwarcheidwaid ym 1983.[3]

Yn y 1990au, ceisiodd y llywodraeth wella cynhyrchiant amaethyddol gyda'r nod o hunangynhaliaeth bwyd. Erbyn diwedd yr 20g, roedd amaeth yn cyfri am un rhan o bump o gynnyrch domestig gros Iran.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) "Iran at a glance", Sefydliad Bwyd ac Amaeth (FAO) y Cenhedloedd Unedig. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Mai 2026.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 (Saesneg) Iran: Agriculture, forestry, and fishing. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Mai 2026.
  3. 3.0 3.1 3.2 John H. Lorentz, Historical Dictionary of Iran, ail argraffiad (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2007), tt. 8–9.